Newyddion S4C

Teyrnged teulu i dad 'ffyddlon' fu farw mewn gwrthdrawiad ger Y Trallwng

22/11/2024
Rhys Jenkins

Mae teulu dyn 41 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A483 ger Y Trallwng wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Rhys Jenkins o Lyn-nedd, a oedd yn teithio gyda'i fab naw oed, yn y gwrthdrawiad ar 16 Tachwedd.

Mae ei fab yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu ei fod yn "ŵr, tad a dyn teulu ffyddlon".

"Mae ei golled yn gwbl ddinistriol i ni gyd," medden nhw. 

"Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom ers y digwyddiad gwirioneddol ofnadwy hwn ac yn parhau i gael ein cysuro gan y dymuniadau da."

Ychwanegodd: "Byddem fel teulu yn ddiolchgar i gael amser i alaru nawr."

Mae'r heddlu wedi cyhuddo dau ddyn yn dilyn y digwyddiad.

Mae Abubakr Ben Yusaf, 29 oed, wedi’i gyhuddo o yrru dan ddylanwad cyffuriau, achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, achosi marwolaeth ag yntau heb yswiriant, a pheidio stopio ar ôl gwrthdrawiad ffordd.

Mae Umar Ben Yusaf, 33 oed, wedi’i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, achosi marwolaeth ag yntau heb yswiriant, a pheidio stopio ar ôl gwrthdrawiad ffordd.

Mae’r ddau yn cael eu cadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ar 20 Rhagfyr.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a allai fod â lluniau dashcam, i gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r cyfeirnod DP-20241216-254.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.