Newyddion S4C

Biliau ynni i gynyddu eto ym mis Ionawr

Arian Costau Biliau

Mae'r rheoleiddiwr Ofgem wedi cadarnhau y bydd biliau ynni yn cynyddu eto o fis Ionawr ymlaen. 

Mae'r cap yn cyfyngu ar faint y mae bob cartref ar gyfartaledd yn ei dalu am nwy a thrydan.

Dywedodd y rheoleiddiwr y bydd y cynnydd yn golygu y bydd bil ar gyfartaledd i bob aelwyd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn cynyddu o £1,717 i £1,738 y flwyddyn, sydd yn gynnydd o 1.2%.

Bydd y newid yn dod i rym ym mis Ionawr.  

Daw hyn wedi i'r pris gynyddu o 10% ym mis Hydref.

Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol marchnadoedd Ofgem Tim Jarvis: "Er bod newid heddiw yn golygu fod y cap wedi aros yn eithaf sefydlog, rydym yn deall fod cost ynni yn parhau yn heriol ar gyfer gormod o aelwydydd.

"Mae ein dibyniaeth ar farchnadoedd rhyngwladol cyfnewidiol, sy'n cael eu heffeithio gan ffactorau fel y digwyddiadau yn Rwsia a'r Dwyrain Canol, yn golygu fod cost ynni yn mynd i barhau i newid."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.