Newyddion S4C

Teyrnged teulu i fenyw 'deallus, caredig a gofalgar' fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr

21/11/2024
Emily Thornton-Sandy a Scout

Mae teulu menyw "deallus, caredig a gofalgar" a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin wedi rhoi teyrnged iddi.

Bu farw Emily Thornton-Sandy o Bontarddulais mewn gwrthdrawiad rhwng pedwar car ar yr A48 rhwng Cross Hands a Phont Abraham.

Roedd hi'n teithio 'nôl o apwyntiad milfeddyg gyda'i chi, Scout, a fu farw ychydig ar ôl y gwrthdrawiad.

Cafodd Emily ei chludo i'r ysbyty yng Nghaerdydd, ond bu farw ar 11 Tachwedd gyda'i gŵr wrth ei hochr.

Dywedodd ei gŵr ei fod yn gweld eisiau gwên ei wraig bob dydd.

"Roedd Emily yn garedig ac yn drugarog," meddai.

"Roedd hi'n caru llenyddiaeth yn ac angerddol dros ofalu am ei phlanhigion yn y tŷ.

"Mae ei marwolaeth wedi gadael twll mawr yn ein bywydau na fydd modd byth ei lenwi.

"Dwi'n codi bob dydd mewn anghrediniaeth i'r ffaith fyddai byth yn gweld ei gwên eto.

"Roedd hi'n haeddu bywyd hir a hapus ac mae meddwl am yr hyn ddigwyddodd iddi y diwrnod hwnnw yn dod â chymaint o boen i mi."

Image
Emily Thornton-Sandy

Ychwanegodd rhieni Emily bod eu bywydau wedi newid am byth.

"Roedd Emily yn golygu'r byd i ni," medden nhw.

"Emily oedd ein balchder i gyd ac roedd hi wedi cyflawni cymaint yn ei bywyd byr. 

"Roedd hi'n ddeallus, caredig a gofalgar a wedi cyffwrdd bywydau cymaint o bobl."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.