Dyfodol YesCymru yn y fantol, medd sylwebydd gwleidyddol

Dyfodol YesCymru yn y fantol, medd sylwebydd gwleidyddol
Yn dilyn dadleuon chwyrn rhwng rhai cefnogwyr YesCymru ar gyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau diwethaf mae'r sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis wedi rhybuddio gallai dyfodol y mudiad fod yn y fantol.
"Os does dim byd yn digwydd sa i'n credu bydde chi'n gweld YesCymru fel unrhyw fath o fudiad proffesiynol, neu fudiad gwleidyddol sylfaenol o gwbl yn chwe mis," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
Daw ei sylwadau wythnos wedi i Siôn Jobbins roi'r gorau i gadeiryddiaeth y mudiad am resymau iechyd.
Mae arweinwyr YesCymru wedi galw ar gefnogwyr y mudiad i barchu ei gilydd yn dilyn wythnosau o gecru ymysg rhai aelodau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Tyfodd aelodaeth y mudiad o 2,500 i 18,000 dros y deunaw mis diwethaf, ac mae YesCymru yn cydnabod bod angen newidiadau strwythurol.
"Ar hyn o bryd ma' 'da nhw diffyg arweinyddiaeth, sydd yn broblem enfawr, does dim 'da nhw'r strwythur i neud yn siŵr bo nhw'n gallu symud ymlaen o broblemau ideolegol, gwleidyddol a strategol.
"Y broblem yn y tymor byr yw'r ffaith bod pobl ddim yn siarad gyda'i gilydd am annibyniaeth yn YesCymru.
"Ma' nhw'n dadlau amdano pethau cwbl wahanol, so ma' fe yn niweidio YesCymru.
"Ma' rhaid i ni gofio wrth gwrs nath cyfryngau cymdeithasol helpu YesCymru i adeiladu mudiad pwerus iawn, a nawr mae'n debygol bydd cyfryngau cymdeithasol yn niweidio o'r mudiad fel ni byth di gweld o'r blan."
Yn y cyfamser mae cadeirydd dros dro YesCymru, Sarah Rees, wedi galw ar aelodau i barchu ei gilydd.
Bydd cyfarfod o Bwyllgor Cenedlaethol y mudiad yn digwydd ddiwedd y mis.
Llun: Llywelyn2000