Newyddion S4C

Dyn 24 oed wedi ei gael yn euog o lofruddio'i ffrind yng Nghaerdydd ar Noswyl Nadolig

21/11/2024
Llofruddiaeth Llandaf

Mae dyn 24 oed wedi ei gael yn euog gan reithgor o lofruddio'i ffrind ar Noswyl Nadolig.

Yn Llys y Goron Caerdydd fe wnaeth y rheithgor ddyfarnu bod Dylan Thomas yn euog o lofruddio William Bush, 23 oed

Roedd Dylan Thomas wedi ei gyhuddo o drywanu William Bush sawl gwaith mewn ymosodiad yn eu cartref yng Nghaerdydd ar 24 Rhagfyr y llynedd.

Mewn gwrandawiad cynharach, plediodd Thomas yn euog i ddynladdiad ond roedd wedi gwadu'r cyhuddiad o lofruddiaeth.

Roedd y ddau ddyn wedi bod yn ffrindiau ers pan oedden nhw'n 13 oed ar ôl cyfarfod yng Ngholeg Crist Aberhonddu, Powys. 

Dioddefodd Mr Bush 37 o anafiadau trywanu yn yr ymosodiad, gan gynnwys 16 i'w wddf, tra bod Thomas wedi dioddef anafiadau i gledrau ei ddwylo. 

Roedd Dylan Thomas wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi'i anafu wrth geisio amddiffyn ei hun yn ystod yr ymosodiad.

Dywedodd barnwr Mrs Ustus Steyn y byddai'n dedfrydu Dylan Thomas ar Ragfyr 16.

Cafodd Thomas ei gadw yn y ddalfa.

Mae Dylan Thomas yn fab i'r miliynydd Syr Stanley Thomas, sylfaenydd Peter's Pies, a oedd yn bresennol yn y llys drwy gydol yr achos.

Llun: William Bush

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.