Ffrind i gyn-chwaraewr rygbi fu farw o hunanladdiad ar ôl cyfergyd yn galw am well cefnogaeth
Mae Andrew Watkins yn cofio ei ffrind, Cae Trayhern, fel person positif a chyfeillgar.
Ond mae’n gorfod wynebu’r goblygiadau enfawr a gafodd rygbi ar fywyd Cae.
Fe wnaeth y ddau gwrdd pan oedden nhw’n bum mlwydd oed ac fe gawson nhw eu magu wrth chwarae rygbi yn yr un timau.
Roedd Cae yn gefnwr talentog, ac erbyn iddo droi’n 18 oed roedd yn chwarae i Bontypridd yn y garfan hŷn.
Yn chwaraewr cadarn a didrugaredd, roedd Cae yn gyfarwydd â chyfergyd a’i effaith ar y corff.
“Roedd yna ddigwyddiad pan gafodd e brawf”, meddai Andrew. “Cafodd ei daro’n anymwybodol.”
“Pan ddaeth e at ei hun, roedd e yn yr ystafell newid ar ei ben ei hunan. Doedd gen e ddim syniad lle oedd e, ddim yn gwybod ble oedd y cawodydd, doedd neb o’i gwmpas.
“Gath e ei adael. Roedd e’n dorcalonnus pan ‘nath ei rieni ei ddarganfod yn y stâd yna.”
Dywedodd Andrew bod Cae wedi dioddef “lleiafswm o 11 cyfergyd” (concussion) wrth chwarae rygbi, a dim ond y rheini roedd ei ffrindiau a’i deulu yn ymwybodol ohonynt.
Erbyn y cyfnod yr oedd ei yrfa ar y cae yn dirwyn ei ben, gofynnodd Cae i gael newid safle. Roedd hyn yn arwydd o’r niwed ar ei gorff wrth chwarae’r gamp.
“Byddwn i ddim yn synnu os gafodd ef 30, 35 cyfergyd,” meddai Andrew.
Fe ddechreuodd Cae ganolbwynto ar ei yrfa fel gosodwr nwy hunangyflogedig wrth iddo roi gorau i chwarae cymaint ar y cae.
Ond fe ddechreuodd deimlo’n fwy rhwystredig wrth iddo fethu cwblhau tasgau oedd wedi bod yn syml iddo yn y gorffennol.
“Roedd e wedi synnu gyda’i hun ar ôl iddo gysylltu pibell ddŵr gyda phibell nwy. Doedd e ddim yn deall sut digwyddodd hyn o gwbl.
“Roedd e’n rhoi fwy o bwysau ar ei hun ac yn dod dan fwy o bwysau am fethu gallu cwblhau gwaith syml, i’r pwynt lle nath e benderfynu gadael ei swydd."
'Ath e’n dawel iawn'
Erbyn 2016, fe wnaeth gyfeirio ei hunan i uned iechyd meddwl.
“Doedd e heb gysgu am bedwar diwrnod, a roedd e’n brwydro gyda gorbryder, methu ymlacio, doedd e hyd yn oed ddim eisiau i mi fod yna.
“Doedd hyn ddim yn teimlo’n iawn i mi, felly nes i orfodi fy hun i fod yna. Dau neu dri diwrnod wedyn, fe wnaeth e gymryd ei fywyd ei hun.”
Roedd Cae yn 37 mlwydd oed.
Wrth i anafiadau i’r pen mewn chwaraeon dderbyn mwy o sylw, fe wnaeth rhieni Cae ddechrau cysylltu symptomau eu mab gyda chyfergyd.
Gwyn Lloyd yw Trefnydd Cystadleuaeth adran Ddreigiau Undeb Rygbi Cymru.
“Mewn rygbi iau yn enwedig, mae’r rheini yn amharod i gymryd eu plant bant o’r cae ar ôl iddynt daro eu pen,” meddai.
“Mewn rhai cystadlaethau, rydym wedi cael sgyrsiau gyda hyfforddwyr sy’n dweud ‘os rhaid iddo ddod bant o’r cae?”
“Ond, mewn lefelau yn is na rygbi proffesiynol, does dim Asesiad Anafiadau Pen, yn hytrach rydym yn dilyn, ‘Sylwi a Symud’.”
Mewn ymateb, dywedodd Undeb Rygbi Cymru: “Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu addysg trwy gydol y gymuned rygbi am brotocolau cyfergyd… ac rydym yn annog pawb i fabwysiadu ein polisi ‘if in doubt sit them out’.
“Rydym hefyd yn darparu cyrsiau cymorth cyntaf am ddim i bob clwb.
“Mae yna nifer o adnoddau newydd ar gael ar wefan URC.”