Newyddion S4C

Achos llofruddiaeth honedig Noswyl Nadolig: Rheithgor yn ystyried eu dyfarniad

21/11/2024
Llofruddiaeth Llandaf

Mae'r rheithgor yn achos dyn 24 oed sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio'i ffrind ar Noswyl Nadolig wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.

Mae Dylan Thomas wedi ei gyhuddo o drywanu William Bush, 23 oed, sawl gwaith mewn ymosodiad yn eu cartref yng Nghaerdydd ar 24 Rhagfyr y llynedd.

Mewn gwrandawiad cynharach, plediodd Thomas yn euog i ddynladdiad ond mae'n gwadu'r cyhuddiad o lofruddiaeth.

Roedd y ddau ddyn wedi bod yn ffrindiau ers pan oedden nhw'n 13 oed ar ôl cyfarfod yng Ngholeg Crist Aberhonddu, Powys. 

Dioddefodd Mr Bush 37 o anafiadau trywanu yn yr ymosodiad, gan gynnwys 16 i'w wddf, tra bod Thomas wedi dioddef anafiadau i gledrau ei ddwylo. 

Dywedodd Thomas wrth yr heddlu ei fod wedi'i anafu wrth geisio amddiffyn ei hun yn ystod yr ymosodiad.

'Meddwl clir'

Ymddangosodd Thomas yn Llys y Goron Caerdydd trwy gyswllt fideo o Ysbyty Ashworth, lle mae yn y ddalfa ac yn cael triniaeth am sgitsoffrenia.

Yn ystod yr achos ddydd Iau, clywodd y rheithgor gan Dr Panchu Xavier, seiciatrydd fforensig ymgynghorol yn yr ysbyty yn Lerpwl.

Dywedodd Dr Xavier y gallai Thomas fod wedi bod yn cael pwl seicotig yn ystod yr ymosodiad ac am “hyd at chwe mis cyn y digwyddiad”.

Clywodd y rheithgor hefyd fod Thomas wedi cael ei arestio am dorri i mewn i Balas Buckingham ychydig fisoedd cyn yr ymosodiad ar Mr Bush.

Dywedodd y barnwr Justice Steyn KC wrth y rheithgor y gallen nhw gymryd cymaint o amser ag sydd angen i ystyried eu dyfarniad.

Mae’r amddiffyniad wedi dadlau trwy gydol yr achos fod Thomas yn dioddef o salwch meddwl ar adeg y digwyddiad, gan ddweud bod arwyddion o seicosis.

Roedd yr erlyniad yn anghytuno, gan ddweud ei fod yn dangos “meddwl clir” cyn yr ymosodiad.

Iechyd meddwl

Dywedodd Greg Bull KC, ar ran yr erlyniad, ddydd Mercher nad oedd Thomas yn profi lleisiau a oedd yn dweud wrtho am ladd Mr Bush, fel sy'n gallu digwydd mewn achosion eraill o sgitsoffrenia, ac roedd y ffaith ei fod wedi chwilio am wythiennau a rhydwelïau'r gwddf yn awgrymu bwriad.

Dywedodd Orlando Pownall KC, ar ran yr amddiffyniad, yn flaenorol mai’r unig esboniad am weithredoedd y diffynnydd oedd ei gyflwr meddwl, ac nad oedd “cymhelliad clir” yn yr achos.

Wrth annerch y rheithgor, dywedodd: “Rhaid i chi ryddfarnu os ydych chi’n meddwl bod esboniad iechyd meddwl.”

Mae'r achos yn parhau.

 
 
 
 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.