Newyddion S4C

Diwrnod Cofio Trawsrywedd: ‘Mae’n rhoi llais i bobl traws’

ITV Cymru 21/11/2024

Diwrnod Cofio Trawsrywedd: ‘Mae’n rhoi llais i bobl traws’

Roedd dydd Mercher yn nodi Diwrnod Cofio Trawsrywedd ac fe gafodd cannoedd o wylnosau eu cynnal ledled y DU. 

Yng Nghaerdydd fe wnaeth dros 100 ymgynnull ym Mharc Biwt i nodi'r achlysur.

Mae mwy na 350 o bobl trawsryweddol a rhyw-amrywiol wedi cael eu lladd yn 2024, yn ôl adroddiad “sobreiddiol” gan y prosiect Monitro Llofruddiaethau Traws i gyd-fynd â Diwrnod Cofio Traws.

Mae'r diwrnod, a nodwyd gyntaf yn 1999, yn anrhydeddu pobl sydd wedi cael eu llofruddio mewn gweithredoedd o drais trawsffobig. 

Dechreuodd diwrnod y cofio ar ôl i Rita Hester, dynes draws Ddu, gael ei llofruddio yn Allston Massachusetts ym 1998. Daeth aelodau o'r gymuned LGBTQ+ at ei gilydd ar gyfer gwylnos i gofio amdani a chondemnio cynnydd trais homoffobig a thrawsffobig yn yr Unol Daleithiau.

Mae'r diwrnod yn dilyn Wythnos Ymwybyddiaeth Trawsrywedd. Dyma rai o’r gwylnosau mwyaf sy’n cael eu cynnal yn y DU eleni.

'Dathlu'

Yn ôl Leo Drayton a wnaeth fynychu’r wylnos, mae’r diwgyddiad yn gyfle i “ddangos bod y gymuned yn gryf, ac er gwaethaf popeth erchyll sy’n digwydd yn y byd, ni dal yn gallu dathlu pwy ydym ni".

Ychwanegodd: “Dwi’n credu mae’n bwysig jyst i gofio y pobl sydd ddim mor lwcus, er bod fi’n traws dwi’n eithaf straight passing a sai’n derbyn lot o casineb ragor, a fi’n deallt fod hwna’n sefyllfa rili privileged i fod ynddo fe. 

"So, fi’n meddwl mae e mor, mor bwysig i sort of parchu fod dim pawb mor lwcus a hwnna.”

'Neges i'r byd'

Dywedodd Howl Hubbard, cyd-sylfaenydd Lone Worlds: “Yng Nghaerdydd, mae ein gwylnos yn neges o’n cymuned i’r byd: mae pobl draws yn rhan o ddynoliaeth. Rydym yn dod at ein gilydd fel cylch o bobl gyda bydoedd cymhleth o boen a cholled, gobaith a llawenydd, gwytnwch, goroesiad a chymuned."

Ychwanegodd Prif Weithredwr Not a Phase, Danielle St James: “Fel elusen, rydyn ni’n canolbwyntio’n fawr ar ddyrchafu bywydau oedolion traws+ ledled y DU a dyna pam mae cymaint o’n gwaith yn canolbwyntio ar y positif. 

"Fodd bynnag, nid yw’r pethau sy’n ein hatgoffa o’r brwydrau dyddiol sy’n wynebu ein cymuned byth yn bell i ffwrdd, boed yn heriau i gael mynediad at ofal iechyd, gwahaniaethu o ddydd i ddydd neu waeth.

“Dros y 12 mis diwethaf, rydym unwaith eto wedi colli pobl yn fyd-eang i drais gwrth-draws+ yn drasig. 

"Mae ein gwylnosau i nodi TDOR yn rhoi eiliad i ddod at ein gilydd, i gynnau canhwyllau a chymryd amser i anrhydeddu’r bywydau hyn. Hyd yn oed gyda naws prudd y digwyddiad hwn, rydym mor ddiolchgar i allu meithrin gofod cysurus ac unedig i fod gyda’n gilydd bob blwyddyn.”

Roedd yr wylnos yn cynnwys perfformiadau gan Gymuned y Ddawnsfa Gymreig a Chantorion Traws Caerdydd yn ogystal ag amrywiaeth o siaradwyr.

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.