Cymro'n gobeithio bod y cyntaf i ben Everest mewn gwisg dyn tân
Mae diffoddwr tân o Sir Gâr wedi gosod her i fod y cyntaf i gyrraedd copa mynydd Everest yn Nepal mewn gwisg dyn tân.
Mae Rhys Fitzgerald, 28, o Gydweli wedi bod yn gweithio fel diffoddwr tân i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ers saith mlynedd.
Ac yntau'n cerdded mynyddoedd i’w helpu i ymlacio, mae Rhys wedi gosod ei fryd ar fod y cyntaf i gyrraedd copa'r mynydd uchaf yn y byd wrth wisgo ei wisg tân.
Er mwyn iddo gael ymarfer, fe deithiodd i Nepal ar 19 Hydref gan wisgo ei wisg tân i gyrraedd copa Ama Dablam, mynydd 6,812 metr o uchder yn yr Himalayas.
Y gred yw mai Rhys oedd y cyntaf i gopa’r mynydd mewn gwisg tân, yn ôl Cronfa Ddata Himalaya.
Mae bellach yn canolbwyntio ar dorri record arall yn y gwanwyn trwy gerdded i gopa Everest, mynydd sydd yn 8,848 metr o uchder.
'Dianc rhag popeth'
Bwriad ei 'Brosiect Tân' yw codi arian gyfer Mind, Elusen y Diffoddwyr Tân a Sefydliad Nimsdai.
Hyd yma mae'r gŵr o Sir Gâr wedi llwyddo i godi mwy na £2,500 drwy ei ymgyrch GoFundMe.
“Un o’r pethau anoddaf am fod yn ddiffoddwr tân yw methu ag ymlacio weithiau,” meddai.
“Waeth pa amser o’r dydd neu ba bynnag sefyllfa, mae angen i chi allu troi ymlaen yn syth bin a rhoi 100% i bob galwad.
“Ar ôl galwadau penodol os yw pethau’n mynd yn ormod, rydw i wastad wedi cerdded i fyny’r mynyddoedd – mae Bannau Brycheiniog awr i ffwrdd oddi wrthyf – ac rydw i wedi defnyddio hynny fel ffordd i ddatgywasgu a dianc rhag popeth.”
Ymunodd Rhys â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fel diffoddwr tân saith mlynedd yn ôl pan oedd yn 21 oed.
“Mae helpu pobl a bod yn ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth iau yn rhywbeth sy’n fy ysgogi ac yn gwneud i mi fod eisiau gwneud y gorau y gallaf,” meddai.
Ar 19 Hydref, fe deithiodd Rhys ar ei ben ei hun i Kathmandu, Nepal, gan dreulio wyth diwrnod yn addasu i'r hinsawdd.
Yno fe gerddodd i gopa'r Ama Dablam yn ei wisg tân, er mwyn penderfynu a fyddai angen iddo wneud unrhyw addasiadau ar gyfer Everest.
“Fe ges i’r legins, y siaced a’r tiwnig fel rydyn ni’n ei alw,” meddai.
“Roedd y frigâd dân yn poeni nad yw’r wisg yn addas iawn ar gyfer tymereddau isel iawn, felly fe wisgais haenau a thermals oddi tano.”
Ychwanegodd Rhys nad oedd y symudedd roedd ei gêr yn ei ganiatáu yn broblem, gan fod y rhai o fewn y gwasanaeth tân wedi arfer bod mewn “sefyllfaoedd anodd”, er bod mynd i’r toiled ar y mynydd wedi bod yn anodd.
“Roedd yn rhaid i ni addasu’r legins yn llawn trwy dorri tyllau er mwyn i mi allu mynd heb amlygu fy nghorff yn llawn i’r tymheredd oer,” meddai.
Yn ymuno gyda Rhys oedd 14 o gerddwyr proffesiynol, ac fe gyrhaeddodd y grŵp gopa Ama Dablam ar 8 Tachwedd.
“Roedd rhai pobol yn edrych arnaf yn hurt, fel ‘beth ydych chi’n ei wneud i fyny’r mynydd yma yn y gêr yna’ – roedden nhw braidd yn ddryslyd, ond ar ôl ychydig roedd pawb yn rhan o’r prosiect,” meddai.
Nawr, mae Rhys yn edrych ymlaen at gerdded i gopa Everest y flwyddyn nesaf, ac mae’n rhagweld y bydd yn teimlo “emosiynau cymysg”.
“Mae pobl wedi dweud wrthyf fod hwn yn syniad gwallgof, ac na ddylwn ei wneud ac y dylwn stopio,” meddai.
“Mae'n ymwneud â chefnogi'ch hun a chael yr hyder hwnnw.
“Fe fydd yn ryddhad fy mod i wedi llwyddo i gyflawni rhywbeth mae llawer o bobl yn meddwl sy’n amhosibl.”