Newyddion S4C

Cyhuddo cyn-chwaraewr Cymru o beidio ad-dalu miloedd o bunnoedd

20/11/2024

Cyhuddo cyn-chwaraewr Cymru o beidio ad-dalu miloedd o bunnoedd

Mae un o gyn chwaraewyr enwocaf tîm merched Cymru  wedi ei chyhuddo o gymryd miloedd o bunnoedd  gan gyd chwaraewyr, rhieni a noddwyr heb eu talu yn ôl.

Mae Natasha Harding, sydd bellach yn defnyddio ei enw priod, Allen-Wyatt yn wynebu honiadau ei bod hi wedi derbyn arian am sesiynau hyfforddi gyda phlant, ond wedyn ddim wedi eu cynnal.

Dywedodd rhai rhieni a busnesau wrth y BBC bod Allen-Wyatt wedi rhybuddio y byddai yn gweithredu yn eu herbyn pe bai nhw'n cwyno ar y cyfryngau cymdeithasol

Fe wnaeth Ms Allen-Wyatt ddweud ei bod hi wedi gohirio "rhai sesiynau" oherwydd amgylchiadau oedd allan o'i rheolaeth, ac mae hi wedi ymddiheuro.

Sefydlodd academi ei hun ar ôl ymddeol ym mis Medi 2023, ar ol ennill dros 100 o gapiau dros ei gwlad.

Roedd clwb Dreigiau Dâr yn Aberdâr yn un o'r clybiau oedd wedi gofyn am sesiynau hyfforddi.

Dywedodd Lowri Phillis o'r clwb eu bod nhw wedi talu hyd at £700 am y sesiynau, a dau sesiwn yn unig gafodd eu darparu.

"Mae hi wedi rhoi'r cyfle i'r tîm i cael cyfle i ymarfer gyda hi ac maen nhw wedi talu rhwng £600, £700 i cael y sesiynau hyn ac mae hi dim ond wedi troi lan i dau," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"Yn gyntaf roedd hyn yn anhygoel, ac roedd nhw mor gyffrous cael sesiynau ac ni wedi gallu gweld pa mor talentog roedd hi a pa mor dda oedd hi. 

"Ond ar ôl tipyn bach o amser roedd hi wedi dechrau ddim troi lan ac roedd hi ddim yn siarad gyda'r clwb.

"Roedd e wedi gwneud fi'n drist oherwydd roedd y plant mor gyffrous i'w gweld hi."

Image
Natasha Harding
Harding yn chwarae i Gymru yn erbyn Slofenia. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Mae'r sefyllfa hefyd wedi effeithio ar y tîm cenedlaethol a'r berthynas gyda'i chyn gyd-chwaraewyr.

Mae rhaglen Newyddion S4C ar ddeall mai'r rheswm i Allen-Wyatt beidio cael ei dewis ar gyfer y garfan ar ddiwedd 2022 oedd oherwydd honiadau bod rhai o'i chyd chwaraewyr wedi rhoi benthyg arian iddi ac nad oedd hi wedi eu talu yn ôl.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a'r chwaraewyr eu bod nhw'n "siomedig tu hwnt" o glywed yr honiadau.

Ychwanegodd y datganiad bod y sefyllfa wedi "effeithio ar ein hunain, ein teuluoedd a'n ffrindiau".

Mae'r chwaraewyr a gafodd eu heffeithio yn derbyn "cefnogaeth gyson" meddai CBDC.

Prynodd Adrian Thole sesiynau i'w ferch, ond roedd methiant Allen-Wyatt i ymddangos wedi gwneud iddi feddwl nad oedd hi'n ddigon da.

"Gyda merched yn ei harddegau yn enwedig, mae nifer yn stopio chwarae am resymau gwahanol," meddai.

"Fe gymerodd e lot o hyder i fy merch cael y sesiynau, ond i beidio clywed 'nôl gan Tash, geiriau fy merch oedd 'efallai nad ydw i'n ddigon da', oedd yn drist iawn."

Dywedodd Ms Allen-Wyatt iddi sefydlu'r academi i ddarparu "hyfforddiant technegol manwl" ar gost isel i roi'r "cyfleoedd na chefais erioed" i blant.

Ychwanegodd fod yr academi dal yn gweithredu a'i bod yn rhoi "sesiynau lleol".

Prif lun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.