Newyddion S4C

Teulu Capten Tom 'wedi elwa o dros £1 miliwn' o elusen

21/11/2024
Capten Tom Moore

Mae teulu dyn oedrannus a lwyddodd i godi miliynau o bunnau i elusennau wedi eu beirniadu'n hallt mewn adroddiad, sy'n dweud iddyn nhw elwa'n bersonol o'i ymdrechion wedi ei farwolaeth.

Daeth y Capten Syr Tom Moore yn enwog yn ystod y pandemig am ei ymdrechion i godi arian i'r Gwasanaeth Iechyd. Er ei fod bron yn 100 oed, llwyddodd i godi dros £38 miliwn drwy gerdded o gwmpas ei ardd.

Wedi ei farwolaeth cafodd y 'Captain Tom Foundation' ei sefydlu, ond mae adroddiad gan y Comisiwn Elusennau yn dweud fod ei ferch Hannah Ingram-Moore, a'i gŵr Colin, wedi elwa'n bersonol o dros £1 miliwn drwy eu cysylltiadau a'r elusen.

Mae'r Comisiwn yn cyhuddo'r cwpwl o "gamymddwyn" dro ar ôl tro, mewn modd fydd yn gwneud i'r cyhoedd deimlo eu bod "wedi eu camarwain".

Cafodd  £1.4 miliwn ei dalu i gwmni o eiddo'r cwpwl am lyfr, a'r disgwyl oedd y byddai'r arian yna'n cael ei drosglwyddo i'r elusen. Ond wnaeth hynny ddim digwydd. 

Roedd Mrs Ingram-Moores hefyd wedi hawlio taliad o £18,000 am ymddangos mewn seremoni wobrwyo.

Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennau, David Holdsworth eu bod wedi dod o hyd i sawl achos lle roedd y cwpwl wedi elwa'n bersonol, gyda'r ffin rhwng budd personol a budd yr elusen yn aml yn aneglur.

"Mae Mr a Mrs Ingram-Moores wedi cael elw personol sylweddol," meddai. 

"Rhwng bopeth, mae hyn yn gamymddwyn a/neu gamweinyddu."

Mae'r Ingram-Moores eisoes wedi cael eu hatal rhag bod yn ymddiriedolwyr unrhyw elusen. Dydyn nhw ddim wedi gwneud sylw mewn ymateb i'r adroddiad.

Mae'r 'Captain Tom Foundation' wedi croesawu'r adroddiad, ac wedi galw ar y cwpwl i ad-dalu'r arian.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.