Newyddion S4C

Ffermwyr yn protestio yn erbyn y dreth etifeddu tu allan i San Steffan

Ffermwyr yn protestio yn erbyn y dreth etifeddu tu allan i San Steffan

Tractor ar ôl tractor a'r ffermwyr yn dod a San Steffan i stop.

Yr hen a'r ifanc yma i wrthwynebu'r bwriad i godi treth ar dir ac eiddo amaethyddol pan fo'n cael ei etifeddu.

Fesul bws ar ôl codi'n fore, fe ddaeth 'na gannoedd o Gymru gan gynnwys y criw yma o Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

"Fi yw'r genhedlaeth nesaf. 'So nhw'n deal beth mae ffermwyr yn mynd trwy."

"Mae digon i ddelio gyda heb feddwl edrych ar arian pryd fydd Mam a Dad yn mynd."

"Mae'n ridiculous a fi'n grac a frustrated, sori. Fi'n grac gyda beth maen nhw'n trio gwneud achos sa i'n cytuno a fe. Basically, land grab."

'Na'i gyd maen nhw'n becso am yw climate change targets. Daeth rhai i'r sesiwn swyddogol yma a drefnwyd gan undeb yr NFU lle roedd cyfle i drafod ag aelodau seneddol lleol.

"Mae'n hanfodol bod rhaid iddyn nhw ailedrych ar hwn yn bendant."

Mae pobl arall yn talu treth etifeddiant, pam eithrio ffermwyr?

"Ni'n cynhyrchu bwyd ac mae'n hanfodol i bob gwlad fod yn hunangynhaliol a dydyn ni ddim.

"Os yw hwn yn cario 'mlaen, bydd y wlad yn brin iawn o fwyd."

Y tu allan i'r digwyddiad swyddogol, mae rali annibynnol yn digwydd wedi'i drefnu gan ffermwyr ar-lein a dros 10,000 wedi cofrestru i gael bod yma.

Maen nhw wedi dod a'u protest i gatiau Downing Street.

"Maen nhw ddim wedi edrych ar sut mae'r economi gwledig yn gweithio. Dydyn nhw ddim yn gwybod ffigyrau eu hunain.

"Sa i'n gwybod sut mae ffermwyr yn gallu derbyn beth maen nhw'n gweud."

"Mae'n chwalu unrhyw gynllun busnes. Mae'n pryderu fi o ran beth mae ffermwyr ifanc y dyfodol yn meddwl.

"Ydy hyn yn ysbrydoli nhw i fod yn amaethwyr y dyfodol?"

Cydnabod gofid cymunedau gwledig mae Llywodraeth Prydain. Mynnu taw targedu'r tirfeddianwyr mwyaf cefnog yw'r bwriad nid y ffermydd llai.

"It's a £3 million threshold before income tax is paid.

"Most people see the vast majority of farms are exempt. Even those over the threshold are subject to a 20% tax over 10 years."

462 o ffermydd gafodd eu hetifeddu rhwng 2021 a 2022 oedd werth dros £1 miliwn.

Dan y cynllun newydd bydd treth o 20% yn cael ei osod ar ystadau dros y trothwy hwnnw. Ond does dim treth etifeddiaeth i'w dalu ar eiddo o hyd at £325,000 gan ddod a'r cyfanswm heb ei drethu i £1.3 miliwn.

Os yn briod, byddai'n dwblu gan ddod a'r cyfanswm i £2.65 miliwn. Hefyd, gall y lwfans i drosglwyddo eiddo i blant neu wyrion fynd a'r cyfanswm heb ei drethu ar gyfer cwpl i £3 miliwn.

"Ma'r ffigyrau wedi symleiddio achos maen nhw ond yn cynnwys stadau a'r asedau amaethyddol yn y stad yna .yn hytrach nag asedau arall yn y teulu a bod pawb yn gwpl.

"Yn y swyddfa yma, bydd y ffigwr rhwng 50 a 100 o ffermydd. Mae'n ddydd a nos a dros y penwythnos gyda phawb yn poeni."

Dyma'r brotest fawr gyntaf i Lywodraeth Lafur Syr Keir Starmer.

Daw ar gyfnod anffodus i Eluned Morgan a'i Llywodraeth ar ôl iddyn nhw geisio gwella'r berthynas a ffermwyr yn dilyn protestiadau ar ddechrau'r flwyddyn.

Wythnos nesaf, bydd manylion cynllun sybsidi newydd Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi.

Cyhoeddiad allai gorddi'r dyfroedd unwaith eto.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.