Rhybudd melyn am rew yn parhau i siroedd y gogledd
Mae rhybudd melyn am rew yn parhau mewn grym ar gyfer siroedd y gogledd fore dydd Iau.
Fe ddaeth y rhybudd i rym am 16:00 ddydd Mercher ac fe dydd yn parhau tan 10:00 y bore.
Daw hyn wedi dau ddiwrnod o eira ar draws nifer o siroedd yng ngogledd Cymru ac ar draws ucheldiroedd y de.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y gallai rhew ar y ffyrdd, palmentydd a llwybrau seiclo arwain at anafiadau.
Maen nhw'n gofyn pobl i gymryd gofal wrth gerdded a theithio ar y ffyrdd.
Hefyd maen nhw'n dweud y dylai unrhyw un sydd yn cynllunio i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus wirio amserlenni cyn teithio gan y gallai rhai gwasanaethau cael eu gohirio.
Mae'n bosibl y bydd eira mewn ardaloedd ger y môr hefyd.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer y siroedd isod:
- Conwy
- Gwynedd
- Powys
- Sir Ddinbych
- Sir Y Fflint
- Wrecsam
- Ynys Môn
Llun: Lynwen Williams