Iechyd meddwl: Dros hanner o blant a phobl ifanc ‘ddim yn gwybod lle i gael cymorth’
Iechyd meddwl: Dros hanner o blant a phobl ifanc ‘ddim yn gwybod lle i gael cymorth’
Dydy dros hanner o blant a phobl ifanc Cymru “ddim yn gwybod lle i gael cymorth iechyd meddwl”.
Yn ôl adroddiad newydd, mae angen gwneud gwelliannau ar unwaith i'r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael.
Dywedodd yr adroddiad ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn nad yw pobl ifanc yn cael y cymorth sydd angen arnynt ar yr adegau cywir.
Mae datrysiadau fel adnoddau ar-lein a chymorth drwy apiau ac mewn ysgolion yn rhoi opsiynau hyblyg i bobl ifanc geisio cymorth.
Ond yn aml nid yw’r cymorth y cael ei gynnig yn ddigon cynnar, meddai’r adroddiad.
Cafodd 215 o blant a phobl ifanc, 200 o rieni a gofalwyr yn ogystal â 252 o weithwyr proffesiynol eu holi yn yr adolygiad.
Dyma oedd prif ganfyddiadau’r adroddiad hwnnw:
- Gwella darpariaeth Cymorth ac Atal Cynnar - Nid yw rhai plant a phobl ifanc yn cael cymorth amserol ac effeithiol o hyd.
- Bylchau o ran Gofal Arbenigol - Mae gofal dilynol yn her enfawr o hyd i bob plentyn a pherson ifanc. Mae hyn yn arbennig o wir am y rhai gydag anghenion cymhleth.
- Anghysondeb o ran y gallu i gael gafael ar wasanaeth: Mae anghysondebau o ran y meini prawf a'r trothwyon cymhwysedd ar gyfer cael gafael ar wasanaethau. Mae hyn yn golygu bod nifer o deuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn teimlo'n rhwystredig gyda'r prosesau cyfathrebu.
- Cynnydd o ran y Cymorth mewn Argyfwng - Mae mentrau newydd yn cynnig opsiynau amgen i ofal mewn ystafell achosion brys i blant a phobl ifanc mewn argyfwng. Fodd bynnag, mae galw uchel yn golygu mai dim ond pan fyddant wedi cyrraedd y pen y bydd nifer yn cael gafael ar gymorth o hyd.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bod angen gwella cyfathrebu rhwng darparwyr gofal iechyd meddwl.
"Er ein bod yn canmol ymroddiad gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu cymorth, mae nifer o blant a phobl ifanc yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y gofal sydd ei angen arnynt o hyd," meddai.
“Ni allwn ganiatáu i'r ymdeimlad o ddiymadferthwch ymhlith plant a phobl ifanc barhau; dylai pob plentyn wybod ble i fynd i gael help a chymorth amserol, ni waeth lle y mae yng Nghymru.
“Rhaid i ni wella cydweithrediad ymhlith byrddau iechyd ac awdurdodau lleol er mwyn creu system lle mae gwasanaethau yn cysylltu gyda'i gilydd mwy.
“Nid gwella gwasanaethau yn unig sydd dan sylw yma; rhaid sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael y cymorth iechyd meddwl cywir sydd ei angen."
‘Nid ystadegyn yn unig’
Mae'r adroddiad yn "codi pryderon am gyllid, prosesau cyfathrebu gwael rhwng gwasanaethau a diffyg gofal cydgysylltiedig."
Mae awduron yr adroddiad yn galw am “bartneriaethau cryfach rhwng awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y gofal cywir ar yr adeg gywir.”
Dywedodd Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, Gillian Baranski bod angen gweithio’n ddiflino i wella mynediad plant a phobl ifanc i gymorth iechyd meddwl.
"Nid ystadegyn yn unig yw cymorth iechyd meddwl i'n plant a'n pobl ifanc; mae'n alwad am weithredu," meddai.
“Rydym yn cydnabod y straen sylweddol y mae hyn yn ei roi ar unigolion, teuluoedd a'n gweithwyr proffesiynol ymroddedig ym maes iechyd, addysg a'r awdurdodau lleol.
“Er bod mentrau fel Hybiau Argyfwng yn cynnig gobaith, mae'n rhaid i ni wneud mwy. "