Newyddion S4C

Gwrthod cais i ddymchwel tŷ ym Môn lle cafodd dyn ei lofruddio gyda bwa croes

21/11/2024
Gof Du / Gerald Corrigan

Mae cynllun i ddymchwel tŷ ar arfordir Môn lle cafodd dyn oedrannus ei lofruddio, a chodi tŷ llawer mwy yn ei le, wedi ei wrthod am yr eildro.

Roedd perchennog Gof Du ger Caergybi eisiau adeiladu tŷ pump ystafell wely ar y safle, sydd yn agos i Lwybr Arfordir Ynys Môn a thraeth Porthdafarch. 

Ond cafodd cais Neil Sutton ei wrthod gan gynghorwyr Môn yn wreiddiol y llynedd.

Bellach, mae apêl Mr Sutton yn erbyn y penderfyniad hefyd wedi ei wrthod gan arolygydd cynllunio. 

Roedd o wedi dadlau nad oedd yr adeilad presennol o werth pensaerniol na hanesyddol. 

Ond roedd y cyngor yn credu y byddai'r datblygiad yn rhy fawr.

Cafodd Gerald Corrigan, oedd yn 74 mlwydd oed, ei saethu gyda bwa croes y tu allan i'r tŷ ychydig wedi hanner nos ar fore Gwener y Groglith yn 2019. 

Bu farw o'i anafiadau dair wythnos yn ddiweddarach. Roedd wedi byw yn Gof Du ers dros 20 mlynedd.

Cafwyd dyn o'r enw Terry Whall yn euog o'i lofruddio, a'i yrru i garchar am leiafswm o 31 mlynedd. 

Ond mae wastad wedi gwrthod dweud pam y lladdodd Mr. Corrigan, sydd wedi arwain rhai pobl i ddyfalu fod rhywun arall yn gysylltiedig â'r llofruddiaeth hefyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.