Barddoni yn gysur i fenyw ifanc sy'n byw ag anhwylder bwyta ar ôl colli ei mam
Barddoni yn gysur i fenyw ifanc sy'n byw ag anhwylder bwyta ar ôl colli ei mam
“Mae galar yn rhywbeth sai’n credu bydde byth yn gadael fi, felly bydd barddoniaeth wastad ‘na.”
Dyma eiriau menyw ifanc o Lanelli a ddechreuodd farddoni yn dilyn colli ei mam rai blynyddoedd yn ôl.
Bu farw mam Heledd Haf Howells, Helen, ym mis Hydref 2019 wedi iddi ddioddef dwy strôc.
A hithau bellach yn 21 oed, mae Heledd yn dweud bod y broses o farddoni wedi helpu iddi ymdopi nid yn unig gyda’i galar, ond gydag anhwylderau bwyta hefyd.
“Fi’n ddiolchgar iawn bo’ fi ‘di ffindo barddoniaeth i pwyso arno yn ystod cyfnodau tywyll,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
“Os fi’n gorbryderu am rywbeth, fi'n gallu arafu lawr fy ymennydd wrth jyst ysgrifennu am unrhyw beth, a weithiau mae’n helpu.
“Weithiau mae’n cael fi i edrych ar y llun llawn ac i sylweddoli bo’ fi’n oce.”
'Galar'
Roedd Heledd yn ei mis cyntaf o’r brifysgol pan ddioddefodd ei cholled, a hithau newydd symud i’r brifddinas ar ôl bod yn byw gartref gyda’i chwaer, Stacey, eu mam a’u dau gi.
Roedd dychwelyd adref o’i astudiaethau ym Mhrifysgol De Cymru er mwyn treulio amser gyda’i theulu yn eu cartref yn dilyn marwolaeth ei mam yn brofiad heriol iawn.
“Yn colli hi, oedd e’n newid mawr yn y tŷ. Odd e’n anodd i beidio cwympo mewn i bishys trwy’r amser achos ‘odd hi ym mhob man.
“Odd rhaid i ni clirio ystafell hi… oedd gwynt hi ym mhob man, oedd bwyd hi ‘na, makeup hi. Odd hi yn y waliau mewn ffordd. O’n i’n teimlo fel o’n i’n boddi ynddi hi.
“Pryd fi’n galaru a mae’r emosiynau yn mynd yn ormod, mae’r barddoniaeth ‘na i cadw fi lawr,” esboniodd.
'Cyflwr difrifol'
Roedd barddoni yn ystod y cyfnod hwnnw wedi helpu iddi deimlo’n “lot well,” esboniodd.
Ac fe ddechreuodd Heledd ddefnyddio barddoniaeth fel dull o ymdopi gyda phroblemau eraill yr oedd hi’n ei wynebu yn ei bywyd o ganlyniad.
Ers iddi fod yn 16 oed mae’r bardd ifanc wedi byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn ymwneud â bwyta.
Ac er iddi wella am gyfnod, mae wedi bod yn brwydro yn erbyn rhwystrau “pob dydd” ers 2022.
“Mae’n rhywbeth anodd i trial esbonio achos mae fe ddim yn ‘eating disorder’, ond ma’ fe’n ‘disordered eating’,” meddai.
Mae cyfarwyddwr materion allanol elusen anhwylderau bwyta Beat wedi dweud nad oes ‘na “ddiffiniad swyddogol” ar gyfer cyflwr Heledd.
Mae’n cael ei gydnabod fel anhwylder bwyta sydd ddim o’r rheidrwydd yn cyfateb i anhwylder bwyta cyffredin, esboniodd Tom Quinn.
Mae’n gyflwr “hynod o ddifrifol” all achosi “gofid mawr” i bobl sy’n dioddef gyda symptomau, ychwanegodd.
Galw am fwy o ymchwil
Yn ôl data elusen Beat, mae’n “anodd gwybod” faint o bobl sy’n dioddef â chyflyrau tebyg i Heledd – yng Nghymru a thu hwnt – a hynny oherwydd diffyg ymchwil.
Mae’r elusen yn galw am fwy o fuddsoddiad yn y maes er mwyn sicrhau bod gwaith ymchwil yn medru cael ei gynnal fel “mater o frys.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn “parhau i fuddsoddi mewn ystod eang o gymorth” er mwyn gallu ddarparu gwasanaethau “cynnar” i bobl sydd angen help a chyngor.
Mae Heledd yn gobeithio bod yn rhan o’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am broblemau bwyta gyda’i barddoniaeth.
“Fi jyst yn gobeithio ma’ pobol yn cymryd rhywbeth wrth darllen barddoniaeth fi.
“Teimlo llai unig. Teimlo fel: ‘Diolch byth, dim jyst fi sy’n teimlo fel hyn’.”