Newyddion S4C

Nain o'r Rhyl wedi ei 'sathru i farwolaeth' yn ei hystafell wely

Catherine Flynn

Mae llys wedi clywed bod nain wedi cael ei sathru i farwolaeth yn ei hystafell wely – a bod modd clywed y foment y cafodd ei lladd ar fideo cloch drws digidol ei chartref. 

Bu farw Catherine Flynn yn 69 oed yn dilyn ymosodiad yn ei thŷ ar Ffordd Cefndy yn Y Rhyl ar 25 Hydref y llynedd.

Mae Dean Mears, 34 oed o Fae Cinmel wedi gwadu ei llofruddio. Plediodd yn euog i ddynladdiad Ms Flynn yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ym mis Chwefror. 

Clywodd Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth bod merch Ms Flynn, Natasha Flynn, wedi cael gwybod bod Mr Mears yn nhŷ ei mam ar ôl cael hysbysiad gan gloch drws digidol y tŷ. 

Roedd Natasha Flynn yn ei chartref pan dderbyniodd hysbysiad gan gloch drws ‘Ring’ ei mam am 22.27, ar 24 Hydref. 

Roedd yn rhaid i Ms Flynn wylio tra bod Mr Mears yn torri i mewn i dy ei mam, meddai’r erlynydd KC Andrew Jones. 

Fe giciodd ddrws Catherine Flynn cyn torri ffenestr, meddai.

Roedd modd clywed Ms Flynn yn pledio gyda Mr Dean i beidio ei hanafu ar ddelweddau’r gloch drws, medd Mr Jones. 

Dywedodd Ms Flynn: “Plîs peidiwch.” Roedd modd clywed Mr Jones yn gofyn: “Ble mae'r goriadau?”

Clywodd y llys bod modd clywed sŵn sathru 15 o weithiau wedi hynny. “Da ni’n dweud mai dyma oedd sŵn y diffynnydd yn llofruddio Ms Flynn wrth iddo ei sathru dro ar ôl tro ar ei hwyneb a’i gwddf, a hynny ar ôl ei llusgo allan o’r gwely," meddai'r erlynydd.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad o fewn dau funud cyn iddo adael y tŷ drwy’r ffenest i lawr grisiau 

Dywedodd yr amddiffynnydd Richard Pratt KC: “Ar ran y diffynnydd byddwn yn ymdrechu i brofi bod cyfrifoldeb lleihaedig (‘diminished responsibility’) yn berthnasol yn yr achos hwn.” 

Fe fuodd Catherine Flynn farw ddiwrnod ar ôl yr ymosodiad yn ei chartref. 

Yn dilyn ei marwolaeth, dywedodd ei theulu: "Roedd Cathy yn fam, nain, hen nain, modryb a chwaer anhygoel, a hefyd yn fam a ffrind da i nifer o bobl eraill.

"Roedd hi'n caru ei theulu mwy nag unrhyw beth.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.