
Y cerddor Mike Peters wedi marw'n 66 oed
Mae Mike Peters MBE, prif leisydd The Alarm, wedi marw yn 66 oed.
Roedd wedi bod yn dioddef o ganser ar gyfnodau am dros 30 o flynyddoedd.
Yn enedigol o Brestatyn, ac wedi ei fagu yn Y Rhyl, daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf yn y 1980au cynnar gyda The Alarm, a'u hanthemau poblogaidd yn cynnwys '68 Guns' a 'Strength'.
Llwyddodd The Alarm i ddenu dilynwyr rhyngwladol ffyddlon, gyda llais cryf a phresenoldeb Mike Peters ar y llwyfan yn ganolog i’w llwyddiant.
Yn ystod gyrfa gerddorol dros bum degawd, perfformiodd Peters gyda rhai o artistiaid a bandiau mwyaf y byd gan gynnwys Bob Dylan, Bruce Springsteen ac U2.

Ar ôl derbyn diagnosis o lymffoma ym 1995 ac yna lewcemia lymffosytig cronig yn ddiweddarach, gwrthododd adael i'w salwch effeithio ar ei yrfa gerddorol.
Trodd ei sefyllfa heriol yn genhadaeth i helpu eraill.
Cariad, gobaith a chryfder
Ochr yn ochr â'i wraig Jules, cyd-sefydlodd elusen ganser Love Hope Strength, gan godi ymwybyddiaeth a gweithredu dros roi bôn-gelloedd.
Trwy ei ymgyrch “Get On The List” oedd yn cael ei hyrwyddo yn aml mewn cyngherddau roc a theithiau cerdded - mae'r elusen wedi ychwanegu dros 250,000 o bobl at y gofrestr bôn-gelloedd yn fyd-eang.

Fis Ebrill diwethaf, ychydig cyn cychwyn ar daith o’r Unol Daleithiau, cafodd ddiagnosis o Syndrom Richter, ffurf ymosodol o lymffoma, ac er gwaethaf triniaeth helaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Christie ym Manceinion, gan gynnwys treial clinigol a therapi CAR-T arloesol, ni allai meddygon atal y canser rhag ymledu.
Parhaodd i deithio a recordio cerddoriaeth, gan dderbyn triniaethau arbrofol wrth ddefnyddio ei sefyllfa i godi ymwybyddiaeth ac arian i helpu eraill oedd yn dioddef o ganser.
Ni anghofiodd Peters ei wreiddiau drwy hyn oll, ac roedd yn aml yn perfformio i gefnogi achosion Cymreig ac yn hyrwyddo ysbryd cymunedol Cymru.
Recordiodd gân swyddogol Cymru ar gyfer EURO 2020 – ‘The Red Wall of Cymru’ – a welodd yn canu’r gân gydag aelodau o’r Wal Goch mewn lleoliadau ar draws y wlad. A pherfformiodd yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016 gyda'i ganeuon Cymraeg "Hwylio Dros y Môr' a "Cariad, Gobaith a Nerth."
