'Cario’i Gymreictod â balchder': Teyrngedau i'r cerddor Mike Peters
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i brif leisydd The Alarm, Mike Peters MBE sydd wedi marw yn 66 oed.
Roedd wedi bod yn dioddef o ganser ar gyfnodau am dros 30 o flynyddoedd.
Mae'r canwr Rhys Meirion wedi ei alw'n "Arwr, ysbrydoliaeth a ffrind."
Cydganodd y ddau un o ganeuon Mike Peters, Cariad Gobaith a Nerth.
Wrth roi teyrnged iddo ddydd Mawrth, dywedodd y cerddodd Mal Pope bod "ei wyneb yn goleuo pob ystafell" a bod "ei frwdfrydedd yn heintus."
Ychwanegodd Gareth Potter bod Mike Peters yn "cario’i Gymreictod â balchder."
"Wir yn drist i glywed am farwolaeth Mike Peters," meddai.
"Weles i’r Alarm dim ond yr unwaith, ond chware teg, roedd e’n cario’i Gymreictod â balchder."
Yn enedigol o Brestatyn, ac wedi ei fagu yn Y Rhyl, daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf yn y 1980au cynnar gyda The Alarm, a'u hanthemau poblogaidd yn cynnwys '68 Guns' a 'Strength'.
Llwyddodd The Alarm i ddenu dilynwyr rhyngwladol ffyddlon, gyda llais cryf a phresenoldeb Mike Peters ar y llwyfan yn ganolog i’w llwyddiant.
Cyfansoddodd a pherfformiodd cân swyddogol Cymru ar gyfer Euro 2020.
Inline Tweet: https://twitter.com/FAWales/status/1917176972821545331
Dywedodd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus a Diwylliant Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Wedi fy magu yn yr un rhan o’r byd roeddwn i bob amser yn edrych i fyny at Mike Peters a The Alarm ac yn teimlo’n falch o’r hyn yr oedd wedi ei gyflawni.
"Ond wrth gwrs roedd ganddo hefyd angerdd aruthrol dros y wlad a phêl-droed.
"Roedd mor angerddol a diffuant. Roedd yn ddewis naturiol i gyfansoddi a chanu cân EURO 2020, The Red Wall of Cymru, cân a ddisgrifiodd fel stori am bobol go iawn yn dod at ei gilydd.
"Teithiodd ar hyd a lled y wlad yn cyfarfod ag aelodau’r Wal Goch mewn 11 o leoliadau gwahanol.
“Wedi’i weld yn aml ar ochr y cae yn stadiwm Dinas Caerdydd cyn gemau, roedd Mike yn ostyngedig, bob amser yn gadarnhaol ac yn gwenu. Bydd nid yn unig yn cael ei gofio am ei gerddoriaeth ond hefyd fel cefnogwr pêl-droed go iawn a wnaeth gyfraniad enfawr i ddiwylliant Y Wal Goch. Ein cydymdeimlad â’i deulu.”
Dywedodd y cyflwynydd Sue Charles bod newyddion am farwolaeth Mike Peters yn drist iawn.
"Hwyl fawr, Mike Peters. Hwn yw'r newyddion mwyaf trist am un o'r dynion mwyaf caredig yn y byd roc.
"Roedd ei optimistiaeth a gwydnwch yn wyneb caledwch bywyd yn ysbrydoliedig.
"Roeddet ti wedi byw bywyd llawn cariad, gobaith a chryfder."