Rheithgor yn clywed fod heddwas 'wedi ymosod ar ddyn a’i dagu' ym Mhorthmadog
Mae'r achos weedi dechrau yn erbyn plismon sydd wedi’i gyhuddo o ymosod ar ddyn a’i dagu mewn gardd cartref ym Mhorthmadog
Mae Richard Williams, 42 oed, wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiadau o achosi gwir niwed corfforol gwirioneddol a thagu bwriadol.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, clywodd y rheithgor bod Mr Williams a’i gyd weithiwr, y Cwnstabl Einir Williams, wedi ceisio arestio Steven Clark mewn cartref ar ystad Pensyflog ym Mhorthmadog ar 10 Mai 2023.
Yn ei ddatganiad agoriadol ar ran yr erlyniad, dywedodd y bargyfreithiwr Richard Edwards: “Yn ystod y digwyddiad, dywedodd Mr Clark fod y diffynnydd wedi ei dagu ac ymosod arno.
"Bydd y diffynnydd yn dweud yn syml fod y grym yr oedd yn ei ddefnyddio yn rhesymol i gwblhau'r arestiad hwnnw. Dyna esboniad byr iawn o beth yw pwrpas yr achos.”
Dywedodd Mr Edwards bod gan Mr Clark anaf i’w arddwrn, ac iddo ddweud ei fod mewn poen wrth i’r swyddogion geisio codi ei fraich er mwyn gosod cyffion arno.
“Ond fe wnaeth pethau waethygu ac fe wnaeth Mr Clark, y diffynnydd ac Einir Williams fynd i'r llawr.
“Dywedodd Mr Clark ei fod mewn poen. Dywedodd y diffynnydd ei fod yn gwrthsefyll cael ei arestio.
"Roedd yn galw ar Steven Clark i roi’r gorau i rwystro rhag cael ei arestio, ond dywedodd Mr Clark ei fod dal mewn poen.
"Dywedodd y diffynnydd ei fod wedi gafael yn Mr Clark am ei wddf (headlock), ac roedd y swyddog benywaidd yn ei ddal o amgylch ei goesau.
"Dywedodd Mr Clark ei fod yn teimlo fel pe bai ei ben ar fin cael ei rwygo i ffwrdd. Cafodd ei ddyrnu gan y diffynnydd sawl tro yn ystod y digwyddiad hefyd.
"Gofynnwyd a ddylai'r swyddogion aros am gefnogaeth, ond atebodd y diffynnydd drwy ddweud y byddai Mr Clark yn cael ei daflu "launched" i mewn i’r fan. Cafodd chwistrell analluogi (incapacitant spray) hefyd ei ddefnyddio ar Mr Clark yn y fan.”
Fideos o'r digwyddiad
Cafodd sawl fideo o'r digwyddiad eu dangos yn y llys. Roedd rhai wedi eu ffilmio gan bobl oedd yn yr ardal ar y pryd.
Cafodd dau fideo eu dangos o gamerâu corff y ddau swyddog yn ogystal.
Ychwanegodd Mr Edwards: “Pan fydd swyddogion yr heddlu yn cyflawni arestiad, maent fel arfer yn rhoi person sydd wedi'i arestio mewn gefynnau.
“Fel arfer, mae'n cynnwys rhywfaint o gyswllt corfforol. Gall y cyswllt hwnnw fod â gwahanol lefelau o rym rhwng swyddogion a'r person sy'n cael ei arestio. Mae hynny fel arfer yn digwydd bob dydd heb unrhyw ddigwyddiad.
“Fodd bynnag, mae yna achlysuron pan fydd yn rhaid i swyddogion yr heddlu ddefnyddio rhywfaint o rym corfforol i gwblhau arestiad.
“O dan amgylchiadau o'r fath, nid oes gan y swyddog yr heddlu ryddid i wneud beth bynnag y mae ei eisiau neu ei ddefnyddio, waeth faint o rym y maent eisiau ei ddefnyddio i wneud arestiad.”
Gwelodd y llys fideo o gyfweliad gyda Mr Clark a gafodd ei gynnal yn dilyn y digwyddiad, yn ddiweddarach ar Mai 10 2023.
Roedd yn gwadu ceisio rhwystro swyddogion rhag ei arestio ond dywedodd ei fod wedi “cwffio” i gael Mr Williams oddi arno.
“Fe wnaeth y swyddog gwrywaidd fy nhynnu i tuag ato ar ôl rhoi fy mraich chwith mewn cyffion, ond roedd y swyddog arall yn tynnu fi'r ffordd arall, ac fe wnaeth hi lithro ac fe wnaethon ni i gyd ddisgyn i’r llawr.
“Roedden nhw’n dweud bod fi wedi ceisio gwrthsefyll cael fy arestio. O’n i’n trio dweud bod fy mraich yn boenus, ac yn fregus oherwydd anaf o’n i wedi cael ar feic modur. Roeddwn i wedi gorfod cael piniau yn fy mraich.
“Pan o’n i ar y llawr, roedd y swyddog gwrywaidd yn dal fi wrth fy ngwddf (headlock) ac roeddwn i efo fy ngwyneb ar y llawr, efo nhw yn ceisio rhoi fy llaw tu ôl i 'nghefn.
“Wedyn naeth y plismon gwrywaidd fy nhagu, efo’r plismon benywaidd yn eistedd ar fy nghefn. A wedyn ges i fy nyrnu ddwy waith, dwi’n meddwl.
“Ro’n i’n gweiddi ‘fy mraich, fy mraich’ ac roedd y dyn yn gweiddi yn ôl ‘stop resisting, stop resisting’. Roedd fy asennau a fy mrest yn teimlo fel bod nhw’n barod i snapio, ac roedd fy mhen yn teimlo fel roedd o’n cael ei dynnu i ffwrdd. Ro’n i’n ofn. Ro’n i ar y llawr yn gofyn am help.”
Ar ôl mynd i’r llawr, fe gymerodd dri swyddog i roi cyffion ar ei fraich dde. Wrth geisio symud Mr Clark i fan yr heddlu, dywedodd ei fod wedi defnyddio ei goesau er mwyn ceisio eu hatal rhag ei roi yn y fan.
“Dyliwn i 'di cael fy rhoi mewn i ambiwlans ar ôl cael fy nyrnu yn fy mhen sawl tro,” meddai.
Ar ôl peidio â rhoi ei goesau yn y fan, fe wnaeth y swyddogion ddefnyddio chwistrell (pepper spray) er mwyn gorfodi Mr Clark i mewn i’r fan cyn cau’r drws.
Cafodd ei yrru yn y fan i Orsaf Heddlu Porthmadog.
Dywedodd Mr Clark iddo gael anafiadau i’w lygaid, asennau, ei fraich a chleisiau ar ei goesau yn dilyn y digwyddiad
Ar ôl cyrraedd yr orsaf, penderfynwyd y byddai angen iddo gael ei asesu ymhellach yn Ysbyty Gwynedd.
Ar ôl dangos y fideo o’r cyfweliad, cafodd Mr Clark ei groesholi yn y llys gan y bargyfreithiwr yn amddiffyn Mr Richards, Simon Kealey KC.
Fe wnaeth Mr Kealey honni bod Mr Clark wedi gwthio Einir Williams i’r llawr yn fwriadol er mwyn ymosod arni hi. Fe wnaeth Mr Clark wadu hynny.
Fe wnaeth Mr Kealey awgrymu fod Mr Clark wedi mynd i dŷ ei ffrind i arddio er mwyn ceisio osgoi’r heddlu, ar ôl digwyddiad y tu allan i dŷ ei gyn bartner yn gynharach yn y dydd pan ddigwyddodd ymosodiad honedig.
Fe wnaeth Mr Clark wadu hynny, gan hefyd ddweud nad oedd yn gwybod y rheswm pam roedd yr heddlu wedi dod i’w arestio.
Mae’r achos yn parhau.