Newyddion S4C

Cais i droi llety myfyrwyr gwag yn gartref preifat yn Llambed

20/11/2024
Rhoswyn

Mae cynlluniau i droi llety myfyrwyr ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan yn gartref preifat wedi'u cyflwyno.

Fe lansiwyd deiseb yn y dref yn ddiweddar yn dilyn pryderon y bydd yr holl ddysgu israddedig yn dod i ben yno.

Mae Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, drwy'r asiant Savills o Gaerdydd, wedi cyflwyno cynlluniau i Gyngor Sir Ceredigion i newid defnydd adeilad pedwar llawr  Tŷ  Rhoslwyn i un uned breswyl.

Mae Tŷ Rhoslwyn, sydd wedi'i leoli'n agos i'r brifysgol, yn wag ar hyn o bryd.

Mae datganiad gyda'r cais cynllunio i newid defnydd yr adeilad yn dweud: “Mae’r cynnig hwn yn ceisio ail-ddefnyddio Tŷ Rhoslwyn i ddefnydd preswyl fel y gellir ei feddiannu fel preswylfa deuluol, gan ganiatáu iddo gyfrannu’n gadarnhaol at y farchnad dai leol. 

"Er bod hanes cynllunio’r safle ychydig yn aneglur, mae sicrhau caniatâd cynllunio llawn ar gyfer ei newid defnydd yn bwysig er mwyn caniatáu ar gyfer ei farchnata fel tŷ ac, yn y pen draw, i unrhyw brynwr allu benthyca arian fel rhan o forgais.

“Cyn ei ddefnyddio fel llety myfyrwyr, mae’r eiddo wedi gweithredu fel preswylfa deuluol ac mae’r cynigion yn ceisio dychwelyd yr eiddo i’w ddefnydd blaenorol.”

Bydd y cais yn cael ei ystyried gan gynllunwyr y sir yn ddiweddarach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.