Newyddion S4C

Gatland 'angen mwy o amser' ar drothwy gêm Cymru yn erbyn De Affrica

20/11/2024
Warren Gatland

Mae Warren Gatland wedi dweud ei fod "angen mwy o amser" fel prif hyfforddwr Cymru ar drothwy'r gêm yn erbyn pencampwyr y byd, De Affrica.

Hon fydd gêm olaf Cymru yng Nghyfres yr Hydref ac mae Gatland wedi gwneud pedwar newid i'r tîm cychwynnol.

Bydd Sam Costelow yn cychwyn yn safle'r maswr tra bod Taine Plumtree yn dychwelyd i'r pac. 

Bydd Christ Tshiunza yn dechrau am y tro cyntaf yn y gyfres yn ogystal â Rio Dyer ar yr asgell.

Mae Cymru wedi colli 11 gêm ryngwladol o'r bron, ac fe fydd yr her yn erbyn pencampwyr y byd yn golygu y gallai ymestyn i 12 colled.

Wrth siarad gyda'r wasg ddydd Mercher dywedodd Gatland ei fod wedi gofyn am fwy o amser yn y swydd.

"Rydym ni wedi gofyn am ychydig mwy o amser. Os ydyn ni'n cael yr amser hwnnw, bydd rhaid i i ni aros i weld," meddai.

"Mae gennym ni grŵp o chwaraewyr ifanc, ac maen nhw angen yr amser.

"Dwi'n hollol ymwybodol mai hanfod rygbi yw perfformiadau a chanlyniadau. Gobeithio y gallwn ni wella ar berfformiad wythnos diwethaf ddydd Sadwrn yma."

Image
Sam Costelow
Bydd Sam Costelow yn dechrau yn safle'r maswr ddydd Sadwrn. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Mae Gatland wedi bod o dan cryn bwysau dros y pythefnos diwethaf wedi perfformiadau gwael Cymru.

Enillodd Ffiji yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ar 10 Tachwedd a dydd Sul diwethaf fe wnaeth Awstralia sgorio 40 pwynt am y tro cyntaf yn y brifddinas, gan ennill 20-52.

Dywedodd Gatland y bydd yn parhau fel prif hyfforddwr Cymru a ni fydd yn ymddiswyddo heblaw bod hynny o fudd i bawb.

Dyma garfan Cymru i wynebu De Affrica ddydd Sadwrn:

15. Blair Murray, 14. Morgan Rogers, 13. Max Llewellyn, 12. Ben Thomas, 11. Rio Dyer, 10. Sam Costelow 9. Ellis Bevan. 1. Gareth Thomas, 2. Dewi Lake (capten), 3. Archie Griffin, 4. Will Rowlands, 5. Christ Tshiunza, 6. James Botham, 7. Jac Morgan, 8. Taine Plumtree.

Eilyddion: 16. Ryan Elias, 17. Nicky Smith, 18. Keiron Assiratti, 19. Freddie Thomas 20. Tommy Reffell, 21. Rhodri Williams, 22. Eddie James, 23. Josh Hathaway.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.