Newyddion S4C

'Dau ddiwylliant tebyg': Myfyrwyr o Gymru'n dysgu am iaith a diwylliant y Māori yn Seland Newydd

20/11/2024
Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn Seland Newydd

Mae grŵp o fyfyrwyr  o Gymru wedi bod ar daith o Aotearoa yn Seland Newydd i brofi iaith a diwylliant y Māori.

Fe wnaeth 10 o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd deithio i Brifysgol Waikato i ddilyn cwrs Te Ao Hurihuri.

Yn ystod eu cyfnod yno fe wnaethon nhw gymryd rhan mewn sesiynau am te reo Māori (iaith Māori) a te ao Māori (golwg y Māori ar y byd) sy’n cynnwys hanes y Māori, arferion diwylliannol, gwerthoedd, a dulliau o rannu gwybodaeth.

Cafodd y myfyrwyr hefyd cyfle i gymryd rhan yn nathliadau diwrnod Kīngitanga i ddathlu Kuini (brenhines) newydd y Māori, Ngā Wai hono i te pō, ac yn rhan o raglen ddigwyddiadau'r diwrnod, gwahoddwyd y Cymry i roi cyflwyniad ar ymdrechion i adfywio'r Gymraeg.

Mae'r ymweliad yn nodi lansio cynllun cyfnewid i fyfyrwyr Māori a Chymraeg eu hiaith ym Mhrifysgol Waikato a Phrifysgol Caerdydd.

Dywedodd nifer o'r myfyrwyr bod eu profiadau yn Aotearoa wedi gwneud iddyn nhw werthfawrogi eu perthynas gyda'r Gymraeg.

"Mae'r daith hon wedi newid fy mywyd i. Roedd y profiad o ymgolli yn niwylliant y Māori yn anhygoel a byddaf yn ei drysori am byth," meddai Samia Yassine.

"Mae gallu astudio rhan o fy ngradd yn Gymraeg wedi bod yn bwysig i fi - ac mae'r daith yma wedi gwneud i fi feddwl yn ddyfnach am fy mherthynas gydag iaith a diwylliant Cymru."

Cael ei annog i ddathlu'r Gymraeg mae Swyn Owen wedi'r ymweliad i Seland newydd.

“Rwyf wedi dysgu llawer am ddiwylliant y Māori, ac mae’r profiad wedi agor fy llygaid i ddiwylliannau gwahanol," meddai.

"Mae wedi fy annog i ddathlu’r Gymraeg yn fwy a bod yn falch o hanes yr iaith a pha mor bell mae’r iaith wedi dod.”

Dylanwad y Gymraeg 

Roedd Dr Angharad Naylor, Deon newydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi teithio i Seland Newydd gyda'r myfyrwyr.

Dywedodd bod y daith wedi bod yn gyfle i ddeall mwy am sut mae'r Gymraeg yn effeithio ar ein hunaniaeth ddiwylliannol.

"Roedd y daith hon yn brofiad ysbrydoledig i ni gyd, gan roi cyfle inni weld sut mae diwylliant ac iaith y Māori’n cael ei ddathlu a'i gynnwys ym mhob agwedd ar fywyd mewn cymunedau yn Aotearoa. Rwy'n ddiolchgar i bawb ym Mhrifysgol Waikato am eu croeso," meddai.

"Nid yn unig y mae'r daith hon wedi rhoi’r cyfle inni ddysgu am ffordd y Māori o fyw, mae wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i ni o'n hunaniaeth ddiwylliannol ein hunain a'r ffyrdd y mae'r Gymraeg yn dylanwadu arno.

"Er bod y ddwy wlad mewn rhannau gwahanol o'r byd, maen nhw’n debyg mewn nifer o ffyrdd, ac mae’n dangos y ffyrdd y mae iaith leiafrifol ffyniannus yn gallu mynd law yn llaw â diwylliant cyfoethog a bywiog, ac yn rhywbeth y dylid ei ddathlu a'i feithrin."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.