Costau ychwanegol am gael 'effaith enfawr' ar gartrefi gofal
Mae cwmni sy'n rhedeg dau gartref gofal yng Ngwynedd wedi rhybuddio y bydd newidiadau diweddar yn y Gyllideb yn golygu costau ychwanegol o dros £200,000 y flwyddyn iddyn nhw.
Mae rheolwr gyfarwyddwr Cartrefi Gofal Cariad, sy'n rhedeg cartrefi ym Mhorthmadog a Phentrefelin, wedi rhybuddio na fydd modd i'r cwmni ysgwyddo baich y costau ychwanegol.
"Rydym wedi cael achos cyfreithiol diweddar gyda’r bwrdd iechyd oherwydd eu ffioedd isel annigonol," meddai Ceri Roberts.
"Nid wyf yn gweld Cartrefi Gofal Cariad yn gallu amsugno’r costau afresymol ychwanegol hyn.
"Bydd hyn yn cael effaith enfawr ar ein cyllid, sydd eisoes dan bwysau. Byddwn yn dychmygu y bydd hyn hefyd yn cael hyd yn oed mwy o effaith ar gartrefi gofal llai, gyda’r posibilrwydd o fwy o gartrefi yn cau."
Mae'r cwmni, sy'n cyflogi 130 o bobl, ac yn gofalu am 77 o bobl fregus, yn amcangyfri y bydd y cynnydd mewn taliadau Yswiriant Cenedlaethol i gyflogwyr yn golygu bil ychwanegol o £95, 795 o flwyddyn, gyda'r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol yn arwain at gostau ychwanegol o £124,703.
Mae'r cwmni'n dweud bod hynny'n cyfateb i £56 fesul preswylydd yr wythnos.
Cafodd sefyllfa'r cwmni ei godi yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog gan Aelod Seneddol Liz Saville Roberts, a ofynodd i'r Dirprwy Brif Weinidog Angela Rayner i "ddefnyddio ei dylanwad" gyda'r Trysorlys i eithrio cartefi gofal o'r cynnydd mewn taliadau Yswiriant Cenedlaethol.
"Mae cartrefi gofal fel Cariad ym Mhorthmadog yn darparu gwasanaeth hollbwysig i’r gymuned leol, gan ofalu am y rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas," meddai Ms Roberts.
'Mae gan eu cartrefi gofal ym Mhorthmadog a Phentrefelin enw da am nyrsio a gofal lliniarol, diwedd oes. Ond mae cynnydd Yswiriant Gwladol newydd Llafur wedi rhoi’r gwasanaethau craidd hyn mewn perygl. Bydd llawer rwan yn wynebu penderfyniadau anodd.'
"Bydd y cynnydd yng nghyfraniadau YG cyflogwyr yn cael ôl-effeithiau pellgyrhaeddol ar draws lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gan greu storm berffaith lle nad oes gan ddarparwyr unrhyw ddewis ond torri'n ôl ar wasanaethau gan na allant fforddio eu cadw i redeg."
Wrth ymateb, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Angela Rayner fod Llywodraeth y DU wedi cynyddu'r gwariant ar ofal cymdeithasol i oedolion a phlant,