Newyddion S4C

Dyn 42 oed wedi ei arestio yng Nghymru ar ôl marwolaeth dyn yn Henffordd

Heddlu

Mae dyn wedi cael ei arestio yng Nghymru ar amheuaeth o lofruddiaeth mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 54 oed yn Sir Henffordd.

Cafodd swyddogion Heddlu Gorllewin Mersia eu galw i gyfeiriad yn Brierley Court, Henffordd, tua 15:40 ddydd Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i ddyn ag anafiadau ac wedi datgan ei fod wedi marw.

Cafodd dyn 42 oed ei arestio yn ne Cymru nos Sadwrn ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n helpu swyddogion gyda'u hymholiadau, meddai'r heddlu.

Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Gareth Lougher: “Cafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad yn Brierley Court, Henffordd, brynhawn Sadwrn yn dilyn pryderon am les.”

“Yn anffodus, fe ddaethon ni o hyd i ddyn 54 oed ag anafiadau ar y safle a oedd wedi marw yn y fan a’r lle," medden nhw.

“Rydym wedi arestio un dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae’n helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad.

“Hoffwn dawelu meddwl y gymuned leol nad ydym yn credu bod unrhyw risg ehangach i’r cyhoedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.