Newyddion S4C

Dyn yn gwadu llofruddio cariad ei fab yn Sir Gâr

Sophie Evans

Yn Llys y Goron Abertawe mae'r rheithgor yn achos llofruddiaeth dynes o Lanelli wedi clywed iddi farw ar ôl cael ei thagu.

Cafodd corff Sophie Evans, oedd yn 30 oed, ei darganfod yn ei chartref fis Gorffennaf y llynedd. 

Mae Richard Jones sy'n 50 oed ac o Borth Tywyn, wedi pledio'n euog i'w dynladdiad, ond yn gwadu iddo lofruddio Ms Evans, oedd mewn perthynas â'i fab.

Clywodd y rheithgor fod Heddlu Dyfed-Powys wedei eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Bigyn ar ddydd Gwener 5 Gorffennaf, a darganfod Sophie Evans yn farw.

Roedd hi yn noeth ar lawr y gegin.

Wrth agor yr achos ar ran yr erlyniad ddydd Mawrth, dywedodd Mike Jones KC fod Ms Evans newydd ddychwelyd i'w chartref ar ôl mynd â'i phlant i'r ysgol adeg yr ymosodiad. 

Bydd yr achos yn parhau ddydd Mercher ac mae disgwyl iddo ddod i ben ymhen pythefnos. 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.