
Dyn o Hong Kong yn annog pobl i 'gefnogi ieithoedd lleiafrifol' ar ôl dysgu Cymraeg
Dyn o Hong Kong yn annog pobl i 'gefnogi ieithoedd lleiafrifol' ar ôl dysgu Cymraeg
“Fy neges ydy annog pobl i gefnogi ieithoedd lleiafrifol… achos mae’r amrywiaeth mor bwysig i ddiwylliant ni i gyd.”
Dyma eiriau cyfansoddwr sy’n wreiddiol o Hong Kong wedi iddo ddysgu naw iaith wahanol – gan gynnwys y Gymraeg.
Mae Israel Lai, 28, wedi byw ym Manceinion ers dwy flynedd a hanner bellach wrth iddo astudio cwrs cyfansoddi yn y brifysgol.
Ac oherwydd ei fod yn byw “jyst dros y ffin” fe benderfynodd ddechrau ar ei daith i ddysgu Cymraeg yn 2022.
Mae’n dweud ei fod yn angerddol dros hybu’r Gymraeg oherwydd bod gan yr iaith hanes tebyg i’w famiaith, sef Cantoneg.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Dwi jyst yn teimlo cysylltiad efo’r iaith, efo sefyllfa’r iaith achos bod fy iaith yn mynd drwy rywbeth yn debyg i hanes y Gymraeg.
“Symud i Fanceinion oedd y ‘trigger’ i mi ddechrau dysgu Cymraeg achos y Gymraeg ydy’r iaith agosaf ata’ i yn ddaearyddol.
“Ond y rheswm gwir oedd bod fi’n teimlo dros ieithoedd eraill sy’n cael eu llethu fatha fy iaith fy hun, y Gantoneg.”

Teithio'r gogledd
Mae’r Gymraeg ymhlith bron i 10 o ieithoedd eraill y mae’n gallu siarad, gan gynnwys Almaeneg, Ffrangeg, Pwyleg, Taiwaneg, Swedeg ac iaith arwyddion – yn ogystal â Saesneg, Mandarin a’i famiaith Cantoneg a ddysgodd yn ystod ei fagwraeth.
Mae’n angerddol dros hyrwyddo ieithoedd gwahanol ac yn cadw cofnod o’i fywyd amlieithog ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ac yntau’n awyddus i rannu ei hoffter am Gymru a’r Gymraeg, fe aeth Mr Lai â’i rieni, Cherry Yip a KK Lai ar daith ar hyd gogledd Cymru yn ddiweddar.
Fe benderfynodd Mr Lai ffilmio taith eu teulu ar gyfer ei sianel Youtube, Rhapsody in Lingo. Mae’r fideo bellach wedi denu cannoedd ar filoedd o wylwyr.

“Nesh i benderfynu mynd â fy rhieni ar daith o gwmpas y gogledd achos o’n i eisiau dangos rhannau o Gymru o’n i’n ‘nabod yn barod… ac o’n i eisiau archwilio mwy o’r wlad fy hun hefyd.
“Oedd ‘na lot o bethau o’n i eisiau ‘neud efo rhieni fi, er enghraifft mynd i gyngerdd Côr Meibion, dyna pam o’n ni yn Rhosllanerchugog.
“Yn syml roedd yn cylch o gwmpas gogledd Cymru. O’n i eisiau dangos llefydd dwi’n ‘nabod yn iawn yn barod i fy rhieni felly aethon ni ar lan y môr yn Llandudno, Conwy.
“Ac wedyn o’n i erioed ‘di bod yn Eryri felly naethon ni gyrru drwy’r mynyddoedd ac o gwmpas i Flaenau a wedyn wrth gwrs i’r gorllewin tipyn bach – ond dim amser i fynd i Ben Llŷn!”

'Diolchgar iawn, iawn'
Mae’n dweud ei fod yn “ddiolchgar iawn, iawn” am yr holl gefnogaeth mae wedi derbyn gan Gymry Cymraeg a thu hwnt ar-lein.
“Ers cyhoeddi’r fideo mae’r Cymry Cymraeg wedi bod mor gefnogol, mor hyfryd,” meddai.

Er bod y mwyafrif yn ei ganmol am ei ddefnydd o’r iaith, mae’n dweud bod rhai wedi ei feirniadu hefyd.
“Ond yn ffodus mae lot mwy o sylwadau cefnogol, positif iawn,” meddai.
“Dim jyst o Gymry Cymraeg ond hefyd pobl eraill yng Nghymru, yn Lloegr, o gwmpas y byd sy’n licio be dwi’n dweud am gefnogi iaith lleiafrifol.”
Mae’n benderfynol o barhau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y dyfodol.
Fe fyddai yn y dyfodol yn hoffi fel cyfansoddwr medru cydweithio gydag artistiaid Cymraeg hefyd.
“Dwi wastad yn trio cyfuno y ddwy ochr: cerddoriaeth a ieithoedd.
“Felly os 'swn i’n gallu ffeindio artist Cymraeg sydd eisiau cydweithio ‘swn i’n hapus iawn.”