Newyddion S4C

Gwrthdrawiad Caerffili: Merch 14 oed a dyn yn ei 70au 'mewn cyflwr critigol'

20/11/2024
castle st caerffili.png

Mae dau berson mewn cyflwr critigol wedi gwrthdrawiad yng Nghaerffili ddydd Mawrth. 

Digwyddodd y gwrthdrawiad ffordd ar Heol y Castell ger Canolfan Siopa Castle Court yn y dref am tua 15:00.

Roedd fan a dau gerddwr yn rhan o'r gwrthdrawiad. 

Fe gafodd dyn 71 oed a merch 14 oed eu cludo i'r ysbyty am driniaeth, ac maent mewn cyflwr critigol. 

Fe gafodd dyn 24 oed o ardal Caerdydd ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru yn beryglus, ac am yrru tra'r oedd dros y trothwy cyffuriau. 

Mae'n parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd. 

Dywedodd y Sarjant Lewys Davies o Heddlu De Cymru: "Rydym yn cynnal ymchwiliad trylwyr i'r gwrthdrawiad ac yn gofyn i aelodau o'r gymuned i beidio â dyfalu am yr amgylchiadau ar gyfryngau cymdeithasol oherwydd gall hyn effeithio ar ein hymholiadau."

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2400385445.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.