Newyddion S4C

Cymraes yn cyrraedd ffeinal Bake Off

georgie grasso.png

Mae Cymraes wedi cyrraedd y ffeinal yng nghystadleuaeth The Great British Bake Off am y tro cyntaf erioed. 

Fe lwyddodd Georgie Grasso i ennill ei lle yn y rownd derfynol.

Ond buodd bron iddi roi'r gorau iddi yn ystod y rownd gynderfynol.

Un o'r tasgau'r wythnos yma oedd gwneud cacen opera, cacen sydd yn cynnwys nifer o haenau. Ond roedd hi'n ffindio'r rysáit yn anodd ei ddilyn.

Fe wnaeth un o gyflwynwyr y rhaglen, Alison Hammond ei hannog i barhau.

Dywedodd Georgie Grasso sydd yn byw yn Sir Gâr bod y rownd cyn derfynol wedi bod "yn un o'r pethau anoddaf dwi erioed wedi gwneud yn fy mywyd. Fe wnaeth e amlygu fy anableddau a fy mrwydrau.

"Dwi'n ffindio hi'n anodd iawn i ddarllen a deall pethau ac o'n i jest ddim yn gallu darllen yr hyn oedd o fy mlaen i. Mi oedd y geiriau i gyd yn cymysgu ac o'n i ddim yn gallu deall nhw. Ond fe wnes i wthio fy hun."

Ychwanegodd nad yw hi erioed wedi bod yn hyderus yn ei hun a'i bod wastad yn cwestiynu ei hun pan mae'n pobi. 

Dywedodd Georgie bod y ffaith ei bod hi wedi cyrraedd y ffeinal fel Cymraes am y tro cyntaf yn ei gwneud yn 'falch'.

"Trwy'r gystadleuaeth yma o'n i yn gwybod mod i ddim jest yn gwneud hyn ar gyfer fi a fy nheulu ond i Gymru. Felly mae bod yn gyntaf i wneud rhywbeth yn y gystadleuaeth yn un o'r eiliadau mwyaf balch i mi."

Bydd hi yn y rownd derfynol gyda Dylan Bachelet a Christiaan de Vries wythnos nesaf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.