Newyddion S4C

Gwaharddiad ar fêps untro yn dod i rym drwy Brydain

Feps untro

Mae gwaharddiad ar fêps untro wedi dod i rym ddydd Sul.

O hyn ymlaen bydd yn anghyfreithlon i siopau werthu fêps untro yng Nghymru a gweddill y DU.

I nifer o ysmygwyr mae fêps wedi bod yn ffordd effeithiol o roi'r gorau i ysmygu sigaréts.

Ond gan fod y rhai untro wedi'u gwneud o blastig, metel a lithiwm, does dim modd eu hailgylchu.

Y gobaith yw y bydd y gwaharddiad yn lleihau’r niwed amgylcheddol sy’n cael ei achosi wrth eu cynhyrchu a'u taflu.

Dros flwyddyn mae 360,000 o fêps untro wedi cael eu taflu ar lawr yng Nghymru, yn ôl elusen Cadwch Gymru'n Daclus.

Mae'r elusen hefyd yn amcangyfrif bod 120,000 o'r teclynnau wedi cael eu fflysio i lawr y toiled.

Gall y rhai sy'n parhau i werthu fêps untro dderbyn dirwy o £200 yn y lle cyntaf.

Ac os ydyn nhw'n aildroseddu, gallan nhw wynebu dirwy anghyfyngedig neu garchar.

'Difetha ein cymunedau'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, bod sbwriel o fêps untro yn "difetha ein cymunedau".

"Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r DU a llywodraethau datganoledig i sicrhau nad oes unrhyw fylchau, gyda'r gwaharddiad yn rhedeg i’r un terfynau amser â gweddill y DU," meddai.

"Dyma enghraifft arall eto o lywodraethau’n gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â blaenoriaethau pobol Cymru."

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi croesawu cyflwyno'r gwaharddiad ar fêps untro.

Dywedodd Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r dystiolaeth yn glir: ni ddylai plant a phobl ifanc fepio.  Er bod fepio yn fwy diogel na smygu i oedolion, nid yw heb risg ac nid oes gennym ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r effeithiau hirdymor ar iechyd eto. 

“Mae'r gwaharddiad ar fêps untro yn gam pwysig wrth gymryd camau brys i atal cenhedlaeth newydd o bobl ifanc sy'n gaeth i nicotin. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn dysgu o'n profiad gyda thybaco a gweithio mor galed â phosibl i atal y defnydd o fêps gan blant a phobl ifanc."

“Cyn bo hir, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio ychwanegiad newydd i wefan Helpa Fi i Stopio, a fydd yn cynnig offeryn digidol am ddim, wedi'i bersonoli gyda'r nod o helpu pobl i roi'r gorau i fepio a smygu'n ddiogel.  Mae'r offeryn hwn wedi'i gynllunio i alluogi pobl i leihau eu dibyniaeth ar gynhyrchion nicotin a bydd yn cael ei lansio yn yr wythnosau nesaf.”

Bydd Bil Tybaco a Fêps y DU sydd ar y gweill, sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd, yn adeiladu ar y gwaharddiad ar fêps untro ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyfyngiadau pellach ar farchnata a gwerthu'r holl gynhyrchion tybaco a fêps. Mae hyn yn cynnwys llu o fesurau i wneud fêps yn llawer llai deniadol i blant a phobl ifanc.

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.