Newyddion S4C

Cadeirlan Bangor: Galw am gynnal 'ymchwiliad annibynnol i'r Eglwys Gadeiriol a'r Esgobaeth'

Newyddion S4C
cadeirlan Bangor (Alan fryer)

Mae offeiriaid yng Nghadeirlan Bangor yn galw ar yr Eglwys yng Nghymru i gynnal ymchwiliad annibynnol i'r Eglwys Gadeiriol a'r Esgobaeth.

Ddechrau mis Mai, cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru grynodebau dau adroddiad beirniadol oedd yn cynnwys cwynion am "ddiwylliant lle roedd terfynau rhywiol wedi cymylu", iaith amhriodol yn cael ei defnyddio ac alcohol yn cael ei yfed i ormodedd. Chafodd yr adroddiadau llawn ddim eu cyhoeddi.

Fe wnaeth yr Eglwys gydnabod gwendidau o ran diogelu, arferion rheoli gwan ac anhryloyw ac ymddygiad gwael yn gysylltiedig â defnydd alcohol ac ymddygiad rhywiol yn y Gadeirlan pan gyhoeddwyd y crynodebau.

Wedi i rai alw ar Archesgob Cymru i ystyried ei ddyfodol, fe gynigiodd y Gwir Barchedicaf Andrew John, sydd hefyd yn Esgob Bangor, ymddiheuriad i "unrhyw aelodau o gymuned y Gadeirlan sydd wedi cael eu brifo, neu sy'n teimlo fy mod wedi eu gadael i lawr".

Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru bod grŵp gweithredu wedi ei ffurfio i weithredu argymhellion yr adroddiadau a bwrdd goruchwylio wedi ei sefydlu i sicrhau bod y gwaith hwnnw yn cael ei wneud yn gywir.

Mae dau offeiriad o fewn i'r Gadeirlan nawr wedi ysgrifennu at esgobion Cymru yn galw am ymchwiliad ffurfiol i esgobaeth a Chadeirlan Bangor ers 2011, gan ddweud y dylai'r ymchwiliad hwnnw gael cymorth "ymgynghorwyr mewn rheoli gweithdrefnol, cyfraith eglwysig, cyfraith sifil a chyfraith droseddol."

Mae gan y Parchedig Ddoctor John Prysor-Jones a'r Tra Pharchedig a'r Athro Gordon McPhate 70 mlynedd yn y Weinidogaeth rhyngddyn nhw. Maent yn dweud bod crynodebau'r adroddiadau gyhoeddwyd fis diwethaf yn "anfoddhaol am eu bod wedi eu cyfyngu gan y cylch gorchwyl...ni wnaethpwyd canfyddiadau ffeithiol, ond yn hytrach daethant i gasgliadau wedi seilio ar argraffiadau."

Er bod John Prysor-Jones a Gordon McPhate yn pregethu ac yn ymgymryd â dyletswyddau bugeiliol yng Nghadeirlan Bangor, does dim rôl ganddyn nhw o ran rheolaeth y Gadeirlan.

Anfonwyd copïau o lythyron eraill at Newyddion S4C dros y diwrnodau diwethaf sydd yn amlinellu pryderon am Eglwys Gadeiriol Bangor. Disgrifia un y sefyllfa yn y Gadeirlan fel un "erchyll" gydag un arall yn dweud bod pethau yn "enbyd" yno.

Mae aelod o gynulleidfa'r Gadeirlan wedi galw am waredu teitl Archesgob Cymru fel prif esgob diogelu yr Eglwys yng Nghymru ar unwaith o ganlyniad i'r methiannau diogelu sydd eisoes wedi eu cydnabod gan yr Eglwys.

Fe wnaeth Newyddion S4C gais am gyfweliad gydag Archesgob Cymru i drafod y llythyron. Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys nad ydyn nhw yn gwneud cyfweliadau.

Mewn datganiad byr, dywedon nhw: "Gallwn gadarnhau bod llythyrau wedi cael eu derbyn gan Esgobion esgobaethau eraill yr Eglwys yng Nghymru ynglŷn ag Esgobaeth Bangor a’i chadeirlan ac y bydd y materion a godwyd yn yr ohebiaeth hon yn cael eu hystyried yn ofalus."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.