
Y dyn sy'n denu chwaraewyr dartiau gorau'r byd i Ben-y-bont
Luke Humphries, Michael van Gerwen a Peter Wright - rhai o sêr mwyaf y byd dartiau sydd yn dod i Gymru i weithio gydag un Cymro penodol.
Mae Lee Huxtable o Bontypridd wedi gweithio i gwmnïau Red Dragon Darts a Winmau yn eu pencadlys ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers dros 20 mlynedd.
Yn rhan o'i swydd fel Cyfarwyddwr Cynhyrchu mae'r dyn 47 oed yn creu dartiau, byrddau dartiau ac yn goruchwylio cynhyrchu nwyddau Red Dragon a Winmau.
Dros y ddau ddegawd diwethaf mae chwaraewyr o bedwar ban y byd wedi teithio i Gymru i weithio gyda'r Cymro.
Mae pencampwyr y byd Luke Humphries, Peter Wright, Gerwyn Price a Michael van Gerwen, yn ogystal â chwaraewyr llwyddiannus eraill fel Jonny Clayton, Simon Whitlock a Joe Cullen wedi defnyddio cynyrch y cwmni.
"Rydym yn mynd i fanylder ar gyfer y chwaraewyr," meddai wrth Newyddion S4C.
"Nid yn unig yr elfennau o'r dart ei hun o ran sut mae'n teimlo, ond meddylfryd y chwaraewr, y manylion personol. Wir darganfod yr hyn maen nhw eisiau a sut y gallwn ni cael y chwaraewyr eu perfformiadau.
"Mae'r broses ddylunio yn drylwyr iawn, o sut mae'r dart yn glanio, sut mae'n teithio yn yr awyr, teimlo yn eu dwylo.
"Weithiau mae'n gallu cymryd blynyddoedd i weithio gyda chwaraewr, ar adegau eraill rydych chi'n cael eich moment eureka a gall hynny ddatblygu gêm chwaraewr yn aruthrol."

Mae'r chwaraewyr yn treulio nifer o ddyddiau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda Lee, gan arbrofi gyda dartiau gwahanol er mwyn darganfod yr un berffaith ar gyfer y chwaraewr.
Fe allai'r broses bara o ddiwrnod i rai misoedd wrth i Lee ddylunio a gwrando ar union beth mae'r chwaraewyr eisiau.
Mae Peter Wright, sydd wedi ennill Pencampwriaeth Dartiau'r Byd ar ddau achlysur, yn adnabyddus am ei ddefnydd o nifer o ddartiau gwahanol.
Roedd yn ddiolchgar iawn i Lee Huxtable am ei waith o ddylunio ei ddartiau wedi iddo ennill y tlws mwyaf ym myd dartiau.
Roedd y broses o ddylunio un o ddartiau Wright yn un a wnaeth gymryd 18 mis i'w chwblhau.
Gerwyn Price a Jonny Clayton
Er bod chwaraewyr ar draws y byd wedi teithio i weithio gyda Lee, mae sawl chwaraewr o Gymru hefyd yn defnyddio dartiau sydd wedi eu creu ganddo.
Yn eu plith mae cyn-bencampwr y byd Gerwyn Price, Jonny Clayton, Richie Burnett a Mark Webster.
Mae Lee yn cofio Price yn dod i Red Dragon am y tro cyntaf ar gyfer creu ei ddartiau, sef y dartiau y gwnaeth ei ddefnyddio wedyn i ennill Pencampwriaeth y Byd yn 2021.
"Mae gen i berthynas dda gyda Jonny a Gerwyn," meddai.
"Dwi'n cofio dechrau gweithio gyda Gerwyn pan roedd e dal yn chwarae rygbi i Gastell-nedd.
"Fe ddaeth e trwy q-school, sef y gylchdaith i droi'n broffesiynol - ac yna dechreuodd y ddau ohonom weithio ar ei ddartiau.
"Dwi'n credu bod pobl yn ei gamddeall. Mae pawb sydd wedi cwrdd ag ef siŵr o fod yn dweud mai ef yw un o'r bobl gorau i weithio gyda."
Enillodd Jonny Clayton Bencampwriaeth Dartiau'r Iseldiroedd y penwythnos diwethaf, ei bedwerydd teitl ar y gylchdaith Ewropeaidd.
Yn ddiweddar mae wedi defnyddio dartiau newydd, ac mae Mr Huxtable yn dweud ei fod yn bleser gweithio gyda'r Cymro.
"Mae Jonny yn Gymro angerddol, ac mae lot o sgyrsiau gydag ef a Gerwyn yn mynd tu hwnt i'r dartiau. Yn aml byddwn yn ei ffonio er mwyn cael sgwrs gyffredinol.
"Daeth Jonny draw tua 10 mlynedd, ac mae wedi bod yn chwaraewr dartiau da erioed. Mae'n bleser i weithio gyda hefyd, un o'r bobl fwyaf cwrtais yn y byd dartiau.
"Roedd y ddau yn ennill Cwpan y Byd y Byd am y tro cyntaf yn 2020 yn enfawr nid yn unig i ddartiau yng Nghymru, ond i'r ddau fel chwaraewyr."
'Camp yn tyfu'
Mae Red Dragon a Winmau yn rhan o grŵp ehangach Nodor, sydd bellach wedi symud y gwaith o greu eu byrddau dartiau i Kenya.
Mae'r planhigyn sisal yn tyfu'n naturiol yn y wlad a dyna'r deunydd gorau ar gyfer creu byrddau.
Yn ogystal mae gan y cwmni ganolfan yn Dallas, Texas, ac maen nhw'n cynhyrchu 30,000 o ddartiau a 20,000 o fyrddau dartiau'r wythnos.
Mae Mr Huxtable yn falch o weld y cwmni'n tyfu ac mae twf y gamp yn ei gyffroi.
"Dwi'n caru fy swydd. Mae'n fwy na chynhyrchu'r dartiau a'r nwyddau," meddai.
"Mae creu'r byrddau dartiau sydd yn cael eu defnyddio mewn rowndiau terfynol Pencampwriaeth y Byd yn foddhaol iawn.
"Allai ddim pwysleisio faint o gyffrous ydi hi i weithio ym myd dartiau ar hyn o bryd. Mae'r gamp wedi tyfu cymaint a dydw i ddim yn siŵr lle mae'r gamp yn mynd nesa, ac mae hynny'n fy nghyffroi'n fawr."