Yr Americanes sy'n dotio ar wrando ar gerddoriaeth Cymraeg
Yr Americanes sy'n dotio ar wrando ar gerddoriaeth Cymraeg
Wrth ddangos ei mwynhad o wrando ar ganeuon fel 'Yma o Hyd' a 'Pwy Sy'n Galw', mae un ddynes o dalaith Washington DC yn yr Unol Daleithiau wedi denu cryn sylw ar ei chyfrif TikTok yn ddiweddar.
Fe wnaeth Anusha, sydd yn gantores bop ac RnB ei hun, ddechrau postio fideos byr ar TikTok yn ei hamser rhydd, heb ddisgwyl yr ymateb a gafodd wrth fynd yn 'feiral',
Gan ddenu miloedd o wylwyr, mae Anusha wedi bod yn derbyn sawl cais gan ei chynulleidfa i ymateb i ganeuon o Gymru, ac mae ei hymateb wrth wrando wedi arwain at gynnydd yn ei phoblogrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gyda dros 1.3miliwn o 'likes' ar gyfartaledd, a degau o filoedd o ddilynwyr ar TikTok, mae Anusha wedi cyrraedd cynulleidfa ar hyd a lled y byd, yn ogystal â Chymru.
I Anusha, ei hoff beth am yr holl brofiad yma yw ei bod wedi cael cyfle i wrando ar lawer mwy o gerddoriaeth newydd na fyddai wedi dod o hyd iddo heblaw am TikTok.
"Yn enwedig cerddoriaeth Cymraeg, mae'n brydferth," meddai.
"Un o'r pethau 'nes i sylweddoli yn syth oedd y teimlad o falchder yr wyt ti'n gael o'r gerddoriaeth, rwyt ti'n gallu gweld bod pobl Gymraeg yn genedl falch iawn."
Er nad yw hi'n siarad yr iaith, mae Anusha yn gwerthfawrogi pa mor "brydferth" yw'r Gymraeg, ac mae'n awyddus i ddysgu mwy.
"Bydda'i sicr yn gwrando ar fwy o gerddoriaeth Cymraeg yn y dyfodol."
Ers dechrau postio ar TikTok, mae hi wedi gwrando ar sawl darn o gerddoriaeth Cymraeg gan gynnwys 'Hei Mistar Urdd', 'Calon Lân', ac mae hi'n enwedig yn mwynhau cerddoriaeth Dom a Lloyd.
"Y gân 'Pwy Sy'n Galw', honna yw fy hoff gân ganddyn nhw hyd yn hyn."
Mae Anusha wrth ei bod ei bod wedi dod o hyd i gerddoriaeth Cymraeg, ac yn dweud fod gwrando ar ganeuon yn yr heniaith yn "gwneud rhywbeth" iddi yn emosiynol.