Newyddion S4C

Cynghrair y Pencampwyr: PSG yn creu hanes wrth roi crasfa i Inter

PSG yn ennill Cynghrair y Pencampwyr

Mae Clwb Pêl-droed Paris St-Germain wedi creu hanes wrth guro Inter Milan 5-0 yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr nos Sadwrn.

Dyma'r bwlch mwyaf yn y sgôr rhwng dau dîm yn hanes rownd derfynol y gystadleuaeth.

Nid yw PSG erioed wedi ennill y gystadleuaeth o'r blaen tan iddyn nhw guro Inter o'r Eidal ym Munich nos Sadwrn.

Desire Doue, y dyn ifanc 19 oed, oedd seren y gêm wrth iddo sgorio ddwywaith a chreu gôl yn y ffeinal ar gae'r Allianz Arena.

Sgoriodd yr amddiffynnwr Achraf Hakimi wedi 12 munud ar ôl i Doue anelu pêl iddo yn y cwrt chwech.

Fe wnaeth Doue sgorio wyth munud yn ddiweddarach ar ôl i'w ergyd wyro i mewn oddi ar amdiffynnwr Inter, Federico Dimarco.

Roedd unrhyw amheuaeth na fyddai PSG yn ennill wedi ei chwalu ar ôl 63 munud wedi i Doue sgorio unwaith eto.

Gyda llai nag 20 munud yn weddill, fe wnaeth Khvicha Kvaratskhelia sgorio pedwaredd gôl y tîm o Baris cyn i'r eilydd 19 oed Senny Mayulu dod oddi ar y fainc i selio'r fuddugoliaeth gyda gôl rhif pump.

Luis Enrique, prif hyfforddwr PSG, yw'r chweched prif hyfforddwr yn unig i ennill Cynghrair y Pencampwyr gyda dau glwb.

Enillodd y gystadleuaeth gyda Barcelona yn 2015.

Dyma'r eildro i Inter golli yn y rownd derfynol yn y tair blynedd ddiwethaf. Collodd y clwb yn erbyn Manchester City yn 2023.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.