Gaza: Degau wedi marw mewn ymosodiad ger canolfan gymorth dyngarol
Mae degau o bobl wedi marw yn dilyn ymosodiad gan luoedd Israel ger canolfan sydd yn darparu cymorth dyngarol yn Rafah, yn ne Gaza.
Yn ôl adroddiadau gan y Groes Goch a chyfryngau sy'n gysylltiedig â Hamas, bu farw'n agos i 30 o bobl pan daniodd tanciau byddin Israel ar bobl ger y ganolfan sydd yn cael ei hariannu gan gynllun dyngarol gydag arian yr Unol Daleithiau.
Cyn yr ymosodiad roedd miloedd o Balestiniaid wedi ymgynnull i dderbyn cymorth dyngarol gan y ganolfan.
Mae newyddiadurwyr ac ymgyrchwyr yn lleol wedi rhannu lluniau ar gyfryngau cymdeithasol o'r gyflafan.
Yn ôl y Groes Goch bu farw 26 o bobl yn yr ymosodiad ac fe gafodd 150 o bobl eu hanafu, ond nid yw union nifer y rhai sydd wedi marw yn eglur.
Nid yw lluoedd arfog Israel, yr IDF, wedi gwneud sylw hyd yma am y digwyddiad.
Llun: Reuters