Arestio dyn lleol 36 oed wedi digwyddiad yng Nghriccieth
Mae dyn lleol 36 oed wedi cael ei arestio ar ôl digwyddiad yng Nghriccieth yng Ngwynedd brynhawn Mawrth.
Derbyniodd yr heddlu adroddiadau o bryderon yn lleol bod dyn yn cario arf yn ardaloedd Llanystumdwy a Chriccieth ychydig cyn 14:00.
Wedi ymholiadau, fe gafodd dyn lleol 36 oed ei arestio ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus.
Nid oedd ganddo arf yn ei feddiant.
Dywedodd yr Arolygydd Jamie Owens: "Hoffwn ddarbwyllo'r gymuned leol mai digwyddiad unigol oedd hwn ac nad oes yna unrhyw bryderon parhaus.
"Ni chafodd unrhyw arfau eu darganfod, ac mae'r dyn yn parhau yn y ddalfa tra mae ymholiadau yn parhau."
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod Q174601.