Newyddion S4C

'Angen codi mwy o gartrefi cymdeithasol' medd un o bwyllgorau'r Senedd

20/11/2024
Tai

Mae angen codi mwy o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau'r Senedd.

Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn galw am greu corfforaeth datblygu genedlaethol. Byddai'r gorfforaeth yn cyflymu’r gwaith o adeiladu tai drwy brynu tir a chynllunio tai ledled Cymru.

Daw'r argymhelliad gan fod adroddiad y pwyllgor wedi darganfod y bydd awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn wynebu heriau i adeiladu'r nifer o dai sydd eu hangen heb y fath gorfforaeth.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r swm sy'n cael ei wario ar dai cymdeithasol, a hynny er mwyn adeiladu 60,000 yn fwy o gartrefi.

Mae gan dai cymdeithasol restrau aros hir ar gyfer pobl sydd angen gwahanol fathau o lety. 

Cartrefi dwy neu dair ystafell wely ydy llawer o'r eiddo sydd ar gael drwy dai cymdeithasol, gyda'r rhain yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer teuluoedd.

Mae hyn yn golygu yn ôl y pwyllgor fod pobl sydd angen eiddo un ystafell wely ar restrau aros am gyfnod hirach. 

'Dipyn o straen'

Roedd Garry Roper, 47, o Gaerdydd yn aros 21 mis am lety un ystafell wely i ddod ar gael. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd yn byw mewn hostel YMCA.

"Yr effaith mwyaf a gafodd hyn ar fy mywyd oedd ei bod hi’n anodd i mi weld fy mab a threulio amser gydag ef. Mi wnaeth ddod i fy ngweld i yn yr YMCA yn ystod yr oriau ymweld sy’n cael ei ganiatáu, ond roedd rhai problemau gyda hynny. Roedd byw mewn hostel i bobl digartref yn dipyn o straen ar brydiau," meddai.

Mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai er mwyn sicrhau bod digon o gartrefi un ystafell wely yn cael eu hadeiladu. 

Dywedodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: “Mae’r adroddiad heddiw yn dangos bod gan Lywodraeth Cymru ffordd bell i fynd os yw am gyrraedd ei tharged o 20,000 o gartrefi newydd erbyn 2026.  

“Rhan hanfodol o gyflawni hyn yw sicrhau bod cyfuniad addas o gartrefi’n cael eu hadeiladu, a hynny o reidrwydd yn cynnwys mwy o eiddo un ystafell wely. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i wneud yn siŵr bod y neges hon yn cael ei chyfleu." 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae mynd i'r afael â digartrefedd a darparu mwy o gartrefi yn flaenoriaeth allweddol i'r llywodraeth hon ac rydym wedi gosod targed heriol ac wedi dyrannu lefelau uchaf erioed o gyllid i'r cyflenwad tai yn nhymor y Senedd hon, gyda mwy na £1.4bn wedi'i fuddsoddi hyd yma.

"Byddwn nawr yn ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion a byddwn yn ymateb maes o law."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.