Tro pedol Johnson a Sunak ar hunan-ynysu wedi beirniadaeth chwyrn

Mae Boris Johnson wedi dweud iddo "edrych yn fras" ar gynlluniau peilot i gymryd prawf pob dydd yn hytrach na hunan-ynysu, ond ei bod hi'n "llawer pwysicach i bawb gadw at yr un rheolau am y tro".
Daw sylwadau'r Prif Weinidog ar ôl tro pedol ganddo ef a'r Canghellor Rishi Sunak ar y penderfyniad i beidio a hunan-ynysu ar ôl dod i gysylltiad â'r Gweinidog Iechyd, Sajid Javid.
Roedd y ddau wedi bwriadu cymryd rhan yn y cynllun peilot, ond cafodd y penderfyniad hwnnw ei newid oriau yn ddiweddarach yn dilyn beirniadaeth chwyrn.
Daeth cadarnhad ddydd Sadwrn fod y Gweinidog Iechyd Sajid Javid wedi profi'n bositif am Covid-19, gyda'r disgwyl i nifer o weinidogion eraill orfod hunan-ynysu hefyd.
Ond fore Sul, dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog a'r Canghellor, na fyddai'r ddau yn hunan-ynysu gan eu bod yn cymryd rhan yn y cynllun peilot.
Cafodd y penderfyniad hwnnw ei wyrdroi yn fuan wedyn, gyda llefarydd ar ran y Prif Weinidog yn dweud y bydd yn hunan-ynysu yn Chequers.
'Rheolau ddim yr un peth'
Mewn neges ar ei gyfrif Twitter, dywedodd Mr Sunak: "Er bod y peilot prawf ac olrhain yn weddol gyfyng, gan ganiatáu busnes hanfodol y llywodraeth yn unig, rwy'n cydnabod bod hyd yn oed y syniad nad yw'r rheolau'r un peth i bawb yn anghywir.
"I'r perwyl hwn, byddaf yn hunan-ynysu fel yr arfer, a ddim yn cymryd rhan yn y peilot."
Wrth ymateb i'r penderfyniad, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer fod y llywodraeth "mewn anhrefn llwyr".
"Mae Boris Johnson a Rishi Sunak wedi cael eu dal unwaith eto am feddwl nad yw'r rheolau rydyn ni i gyd yn eu dilyn yn berthnasol iddyn nhw," meddai.
Ychwanegodd Liz Saville-Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan i'r feirniadaeth ar ei chyfrif Twitter: "Byddai'n ddefnyddiol pe bai gan ein harweinwyr Torïaidd ar y siwrnai #Covid ddigynsail hon gwmpawd moesol i'w tywys.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Prif Weinidog y DU