Dau rybudd am dywydd gaeafol yng Nghymru
Bydd y tywydd gaeafol yn parhau ar draws rhannau helaeth o Gymru ddydd Mercher.
Roedd dros 140 o ysgolion ar gau yn y gogledd ddwyrain a'r canolbarth o achos yr eira ddydd Mawrth.
Roedd rhai ffyrdd hefyd ar gau a rhybudd am amodau gyrru gwael yn y gogledd-ddwyrain.
Fe fydd rhybudd melyn am eira a rhew, a rhybudd ar wahân am rew yn unig, mewn grym rhwng 00:00 a 10:00 ddydd Mercher ar draws nifer o siroedd.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi rhybuddio y gallai rhew effeithio ar ddiogelwch cerddwyr ar y ffyrdd, palmentydd a llwybrau beicio sydd heb eu trin.
Mae'r rhybudd am eira a rhew mewn grym ar gyfer y siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
- Wrecsam
Mae'r rhybudd am rew yn unig mewn grym ar gyfer y siroedd canlynol:
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Casnewydd
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Torfaen
- Bro Morgannwg
- Wrecsam
Llun: Lows Parry / Facebook