Cerddwr wedi marw ar ôl cael ei daro gan lori
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Mynydd y Fflint yn Sir y Fflint brynhawn dydd Llun.
Yn fuan ar ôl 13:00 fe dderbyniodd yr heddlu adroddiad am wrthdrawiad ar Ffordd Llaneurgain rhwng cerddwr a lori HGV.
Aeth y gwasanaethau brys gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru yno, ond bu farw’r cerddwr yn y fan a’r lle.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Melanie Hughes o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn dal i feddwl am deulu’r dyn ar yr amser hynod anodd hwn.
“Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd Ffordd Llaneurgain tua adeg y gwrthdrawiad, neu ychydig cyn hynny, ac a allai fod wedi gweld unrhyw beth, neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam neu luniau teledu cylch cyfyng preifat i gysylltu â ni.”
Ail-agorodd y ffordd ychydig wedi 18:30.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo gyda’r ymchwiliad i gysylltu â swyddogion yr Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 24000977120.