Newyddion S4C

Ychwanegu asid ffolig at flawd yng Nghymru 'i amddiffyn babanod'

19/11/2024
Bara

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd asid ffolig yn cael ei ychwanegu at flawd i helpu i amddiffyn babanod rhag anableddau difrifol.

Bydd cyfraith newydd, o ddiwedd 2026 ymlaen, yn ei gwneud yn ofynnol i flawd nad yw'n flawd gwenith cyflawn gael ei atgyfnerthu gydag asid ffolig.

Gallai ychwanegu asid ffolig at flawd atal tua 200 o achosion o nam ar y tiwb nerfol mewn babanod bob blwyddyn, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae'r nam yn gallu atal yr ymennydd, yr asgwrn cefn a llinyn asgwrn y cefn rhag datblygu'n iawn yn y groth.

Gall hyn achosi cyflyrau difrifol fel spina bifida neu anenceffali.

Dylai menywod beichiog, neu fenywod sy'n ceisio beichiogi, barhau i gymryd atchwanegiadau dyddiol o asid ffolig.

Mae'r fitamin ffolad i'w gael mewn bwydydd fel ffa a rhai llysiau gwyrdd, sy'n golygu bod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn dos digonol.

Ond mae'r GIG yn argymell bod menywod sy'n ceisio beichiogi yn cymryd atchwanegiadau asid ffolig am dri mis cyn beichiogi, ac am o leiaf 12 wythnos ar ôl beichiogi. Bydd yr argymhelliad hwn yn parhau yn ei le.

Nid yw tua hanner yr achosion o feichiogrwydd wedi'u cynllunio, ac mae arbenigwyr yn dweud mai dim ond rhai menywod sy'n cymryd y tabledi dyddiol.

Mae calsiwm, haearn a rhai fitaminau B eisoes yn cael eu hychwanegu at flawd yn y DU.

'Achub bywydau'

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton, bod y Llywodraeth wedi "ymrwymo i roi'r dechrau gorau, iachaf i fywyd i blant".

"Mae atgyfnerthu blawd ag asid ffolig yn ffordd syml ac effeithiol o leihau namau ar y tiwb nerfol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer o fywydau. 

"Ond mae'n bwysig bod menywod sy'n feichiog, neu a allai ddod yn feichiog, yn dal i ddilyn y cyngor i gymryd atchwanegiad asid ffolig bob dydd.

"Mae cymryd 400 microgram o asid ffolig, cyn ac yn ystod 3 mis cyntaf y beichiogrwydd, yn gam pwysig i amddiffyn babanod rhag cyflyrau sy'n peryglu bywyd."

Ychwanegodd: "Gall namau ar y tiwb nerfol gael effaith ofnadwy ar ddisgwyliad oes, felly gallai'r cam syml hwn achub bywydau ledled Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.