LLUNIAU: Protest ffermwyr yng nghanol Llundain
Mae miloedd o ffermwyr yn protestio yn Llundain ddydd Mawrth wrth iddyn nhw wrthwynebu newidiadau “hollol annerbyniol” i'r dreth etifeddiaeth.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol gwerth dros £1 miliwn.
Mae'r penderfyniad yn un dadleuol, gyda'r undebau amaeth yn dadlau y gallai'r cam wthio ffermydd teuluol allan o fusnes.
Mae data’r Trysorlys yn awgrymu na fydd tua 75% o ffermwyr yn talu unrhyw dreth etifeddiant ychwanegol o ganlyniad i’r newidiadau a gyhoeddwyd yn y Gyllideb.
Ond mae ffermwyr wedi herio’r ffigurau hyn.
Dyma'r golygfeydd yn Llundain ddydd Mawrth wrth i'r undebau amaeth lobïo aelodau seneddol - y lluniau gan asiantaeth newyddion PA: