Newyddion S4C

Rhybudd melyn am eira a rhew i ran helaeth o Gymru ddydd Mercher

19/11/2024
eira

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew i ran helaeth o Gymru ddydd Mercher.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i siroedd yn y gogledd, y canolbarth a'r gorllewin.

Fe fydd y rhybudd mewn grym o 00:00 fore dydd Mercher tan 12:00.

Fe allai'r tywydd garw effeithio ar amodau teithio ar y ffyrdd ac ar drenau'r ardaloedd dan sylw.

Hefyd fe allai rhew effeithio ar ddiogelwch cerddwyr ar ffyrdd, palmentydd a llwybrau beicio sydd heb eu trin.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer y siroedd canlynol:

  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Powys
  • Wrecsam

 

Llun: Paul Divall-Simmons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.