Dros 140 o ysgolion wedi cau o achos yr eira
Dros 140 o ysgolion wedi cau o achos yr eira
Mae dros 140 o ysgolion wedi cau yn y gogledd ddwyrain a'r canolbarth o achos yr eira.
Mae rhai ffyrdd hefyd wedi cau gyda rhybudd am amodau gyrru gwael yn y gogledd-ddwyrain.
Daeth rhybudd melyn am eira a rhew i rym ar draws y gogledd nos Lun, gan barhau mewn grym tan 11.00 fore Mawrth.
Bydd siroedd Conwy, Gwynedd, Powys, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint a Wrecsam yn cael eu heffeithio.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi rhybuddio gyrwyr i gymryd gofal ar y ffyrdd ac i ystyried peidio â theithio nes bod y tywydd yn gwella.
Daw’r rhybuddion pennaf yn y gogledd ddwyrain yn dilyn trafferthion ar yr A55 a'r A483 yn Sir y Fflint a Wrecsam dros nos.
Roedd yr eira wedi achosi amodau gyrru gwael, gan arwain at sawl damwain yn y siroedd dwyreiniol.
Dywedodd yr heddlu bod holl brif ffyrdd Sir y Fflint a Wrecsam bellach ar agor.
Ond maen nhw'n rhybuddio bod amodau gyrru gwael yn parhau.
"Byddem yn eich annog i deithio dim ond os yw’n gwbl angenrheidiol, gyda’r rhybudd tywydd yn ei le tan 11.00," meddai'r heddlu.
Pa ysgolion sydd ar gau?
Yn Sir Ddinbych, mae nifer o ysgolion wedi cau o achos y tywydd. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma.
Yn Wrecsam, mae nifer o ysgolion ar gau. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma.
Mae nifer o ysgolion hefyd ar gau yn Sir Y Fflint. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma.
Mae'r eira hefyd wedi effeithio ar Bowys, gyda nifer o ysgolion wedi cau yn y sir honno hefyd. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd ei fod yn debygol y bydd cyfnodau o law ac eirlaw, gyda hyd at 20 cm o eira yn disgyn ar fryniau a mynyddoedd.
Mae "tebygolrwydd isel" y gallai tai golli cyflenwadau trydan ac i wasanaethau trên a bws gael eu heffeithio.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio cerddwyr a beicwyr i gymryd gofal, gan fod rhew yn gallu gwneud palmentydd a llwybrau seiclo yn llithrig.
Llun: Pentref Llanfair Talhaiarn yng Nghonwy gan Eirian Jones