Newyddion S4C

Dyfodol dros 150 o swyddi Prifysgol De Cymru yn y fantol

19/11/2024
Prifysgol De Cymru

Mae dyfodol dros 150 o swyddi Prifysgol De Cymru yn y fantol oherwydd pwysau ariannol.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol eu bod bellach am gyflwyno “rhaglen drawsnewid” a fyddai’n golygu y gall hyd at 160 rôl ddiflannu.

Ni fydd y swyddi dan sylw yn rhai “academaidd,” meddai’r brifysgol.

Mae'r brifysgol wedi dweud eu bod yn wynebu sefyllfa ariannol heriol.

Er eu bod “eisoes wedi gwneud arbedion, nid ydym yn disgwyl gwneud yn iawn am y diffyg hwn mewn un flwyddyn,” medden nhw.

Mae Prifysgol De Cymru bellach wedi dechrau ymgynghoriad gyda’u staff a’u hundebau llafur ynglŷn â chynigion ailwampio ar gyfer eu gwasanaethau proffesiynol.

Ac maen nhw hefyd wedi dweud na fyddai hyn yn golygu colli 160 o swyddi mewn gwirionedd chwaith. 

“Mae cynigion hefyd ar gyfer nifer o rolau newydd ac felly nid ydym yn rhagweld y bydd nifer y cydweithwyr sy’n gadael PDC yn cyfateb i nifer y rolau sy’n cael eu lleihau erbyn diwedd y broses. 

“Rydym wedi ymrwymo i geisio cyfyngu ar ddiswyddiadau gorfodol drwy ein prosesau arferol,” medd llefarydd. 

Mae'r brifysgol yn dweud y bydd y drefn newydd wedi cael ei chadarnhau erbyn dechrau 2025. Mi fyddan nhw wedyn yn cynnig diswyddiadau gwirfoddol ar gyfer y rolau a fyddai’n cael eu heffeithio. 

Dywedodd y llefarydd eu bod nhw wedi bod yn “agored ac yn onest” gyda’u staff a’u hundebau yn ystod y broses yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.