Ffermwyr yn protestio yn Llundain yn erbyn newidiadau i'r dreth etifeddiaeth
Ffermwyr yn protestio yn Llundain yn erbyn newidiadau i'r dreth etifeddiaeth
Mae miloedd o ffermwyr yn protestio yn Llundain ddydd Mawrth wrth iddyn nhw wrthwynebu newidiadau “hollol annerbyniol” i'r dreth etifeddiaeth.
Ac mae rhai ysgolion yng Nghymru wedi cyhoeddi eu bod yn caniatáu i ddisgyblion wisgo wellingtons i'r ysgol ddydd Mawrth os ydynt eisiau dangos cefnogaeth i ymgyrch y ffermwyr.
Mae'r ymgyrchwyr wedi dynodi 19 Tachwedd yn ddiwrnod "Gwisgwch eich welis."
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol gwerth dros £1 miliwn.
Bydd yn rhaid talu'r dreth yma dros gyfnod o 10 mlynedd ar unrhyw eiddo sy'n uwch na £1m. Gallai'r ffigwr yna fod yn £2m mewn achosion lle mae cwpwl yn gadael eu heiddo i blant neu blentyn.
Mae data’r Trysorlys yn dangos na fydd tua 75% o ffermwyr yn talu unrhyw dreth etifeddiant ychwanegol o ganlyniad i’r newidiadau a gyhoeddwyd yn y Gyllideb.
Ond mae ffermwyr wedi herio’r ffigurau. Maen nhw yn cyfeirio at ddata gan Defra sy’n awgrymu bod 66% o fusnesau fferm yn werth mwy na’r trothwy o £1 miliwn y bydd yn rhaid talu treth etifeddiant arno o achos y newidiadau.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1858943611192184833
'Ychydig iawn o ffermwyr'
Mae Prif Weinidog Cymru wedi amddiffyn y newidiadau, gan fynnu mai "ychydig iawn" o ffermwyr fydd yn cael eu heffeithio.
Wrth siarad yn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, dywedodd Eluned Morgan: "Fel rhywun sydd yn cynrychioli ardal wledig, dwi'n gwybod pa mor ganolog ydyn nhw i'r economi yna, a dyna pam y maen nhw'n un o'r sectorau sy'n derbyn y nifer uchaf o gymhorthdal o safbwynt ein heconomi ni.
"Ond rydym ni wedi cael ein gadael gyda thwll du, dyna ydy'r gwir, ac mae ffermwyr yn defnyddio ein gwasanaethau cyhoeddus: maen nhw'n anfon eu plant i ysgolion lleol, defnyddio ysbytai lleol, ac mae rhaid i rywun dalu amdano."
Mae nifer o ffermwyr yng Nghymru a thu hwnt yn gwrthwynebu’r cynlluniau gan ddweud y bydd yn peryglu dyfodol ffermydd teuluol.
Mae disgwyl i 1,800 o aelodau undeb yr NFU lobïo ASau yn San Steffan gan alw arnynt i'w cefnogi a gwrthwynebu’r newidiadau.
Mae miloedd yn rhagor o brotestwyr wedi ymgynnull yn ardal Whitehall hefyd.
Fe gynhaliodd nifer o ffermwyr o'r grŵp Digon yw Digon brotest y tu allan i gynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno dros y penwythnos diwethaf.
Wrth amddiffyn y newid i'r drefn dywedodd Syr Keir Starmer ddydd Llun: “Os cymerwch chi achos arferol o gwpl sydd eisiau trosglwyddo fferm deuluol i un o’u plant, a fyddai’n enghraifft nodweddiadol iawn, gyda’r holl drothwyon yn eu lle, mae hynny’n £3 miliwn cyn i unrhyw dreth etifeddiaeth gael ei thalu.
“A dyna pam rwy’n hyderus na fydd yr agwedd honno o’r Gyllideb yn effeithio o gwbl ar fwyafrif helaeth y ffermydd a ffermwyr.
“Fe fyddan nhw’n cael eu heffeithio gan y £5 biliwn rydyn ni’n ei roi i ffermio, ac rydw i’n hapus iawn i weithio gyda ffermwyr ar hynny.”
Pwysau
Mae Llywydd NFU Cymru Aled Jones eisoes wedi galw ar Lywodraeth y DU i "wyrdroi eu diwygiadau treth camarweiniol" gan ddweud fod y newidiadau yn rhoi dyfodol ffermydd teuluol yng Nghymru yn y fantol.
Dywedodd Llywydd yr NFU Tom Bradshaw ei fod yn gobeithio y byddai’r protestiadau ddydd Mawrth yn rhoi pwysau ar wleidyddion.
“Dwi ddim yn meddwl bod gan y Llywodraeth unrhyw opsiwn heblaw am ail-feddwl y polisi hwn,” ychwanegodd.
Mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd Llywodraeth y DU, Steve Reed wedi amddiffyn y polisïau gan ddweud y bydd yn effeithio ar 500 o ffermydd y flwyddyn yn unig.
Ni fydd yn effeithio ar ffermydd teuluol bach o gwbl, meddai.
'Paratoi'
Mae’r trefnwyr wedi dweud nad ydyn nhw’n pryderu am anhrefn yn ystod y protestiadau ddydd Mawrth.
Daw hyn wedi i rai awgrymu y gallai protestwyr o’r asgell dde eithafol gymryd rhan.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Met fod y llu wedi “paratoi” ar gyfer y digwyddiad a’u bod nhw wedi cael “trafodaethau positif” gyda’r trefnwyr.
Ychwanegodd y llefarydd nad yw’r heddlu am atal tractorau rhag bod yn rhan o’r brotest.
Llun: PA