Newyddion S4C

Carchar am ddwyn gemwaith gwerth £50,000 yng Ngwynedd

Trosedd

Mae dyn 50 oed wedi ei garcharu am ddwyn gwerth dros £50,000 o emwaith o siop ym Mangor, Gwynedd.  

Yn Llys y Goron Caernarfon, cyfaddefodd Iain Butterworth, o Blas Marchogion, Maesgeirchen, Bangor, iddo ddwyn ac achosi difrod troseddol. 

Ar 25 Mawrth 2023, fe aeth Butterworth i mewn i Ganolfan Deiniol ar y stryd fawr, tra roedd ar gau, gan ddefnyddio teclyn i dorri drysau siop hen bethau. 

Ar ôl mynd i mewn i'r siop, llwyddodd Butterworth i ddwyn gemwaith gwerth £56,100, gan roi'r cyfan mewn bag plastig, cyn ffoi oddi yno.  

Cafodd y drosedd ei chofnodi ar gamerâu CCTV.

Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd ac wyth mis.  

Dywedodd y Cwnstabl Stephanie Owen a oedd yn arwain yr ymchwiliad: “Rydym yn benderfynol o sicrhau fod lladron yn cael eu rhoi o dan glo, ac rydym yn croesawu'r ddedfryd o garchar gan y llysoedd.”

Llun: Heddlu Gogledd Cymru 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.