Newyddion S4C

Carcharu cyn-filwr o'r Rhondda am annog casineb hiliol ar ôl ymosodiad Southport

18/11/2024
Daffron Williams

Mae cyn-filwr o'r Rhondda oedd wedi'i gyhuddo o annog casineb hiliol ar ôl ymosodiad Southport wedi’i garcharu am ddwy flynedd.

Roedd Daffron Williams, 40, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o gyhoeddi deunydd oedd yn debygol o annog casineb hiliol rhwng 19 Gorffennaf ac 11 Awst.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y negeseuon yn cynnwys Williams yn disgrifio'r ymgyrchydd asgell dde Tommy Robinson fel "f***ing arwr".

Cafodd y negeseuon eu cyhoeddi cyn ac ar ôl i Bebe King, chwech oed, Elsie Dot Stancombe, saith oed, ac Alice da Silva Aguiar, naw oed, gael eu trywanu’n farw mewn dosbarth dawnsio ar Stryd Hart ar 29 Gorffennaf.

Mewn neges y diwrnod ar ôl y digwyddiad, dywedodd Williams: "Mae rhyfel cartref yma. Yr unig beth sydd ar goll yw bwledi. Dyna’r cam nesaf."

Clywodd y llys fod Williams, o ardal Tonypandy, wedi cael diagnosis o anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yn ymwneud â’i amser yn y fyddin pan fu’n gwasanaethu yn Afghanistan ac Irac.

Cafodd Williams ei arestio ar 11 Awst ac ymddiheurodd pan gafodd y negeseuon eu dangos iddo, a dywedodd wrth yr heddlu ei fod yn eu difaru, clywodd y llys.

Wrth ystyried tystiolaeth am PTSD Williams, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke ei fod yn ffactor ar gyfer y ddedfryd. 

Ond ychwanegodd: "Roeddech chi'n gwybod yn union beth oeddech chi'n ei wneud, roedd eich negeseuon yn fwriadol."

Roedd tystlythyrau a gafodd eu cyflwyno i’r llys ar ran Williams yn ei gwneud yn glir ei fod yn gwasanaethu ei gymuned yn ogystal â’i wlad, meddai’r barnwr.

Y negeseuon

Dywedodd Alex Orndal ar ran yr erlyniad fod Williams wedi bod yn y ddalfa ers iddo bledio'n euog i'r cyhuddiad yn ei erbyn yn mis Awst.

Mewn un neges ar Facebook, dywedodd Williams: "Dw i'n hiliol as f ***, dim ond i’r rhai sy’n disbyddu bywyd allan o gymdeithas ac yn amharchu diwylliant. Mae ein dyfodol fel Prydain mor ansicr fel ei fod yn afreal."

Ar 24 Gorffennaf, cyhoeddodd neges yn dweud: "Dewch ymlaen bois, mae'n bryd i ni sefyll i fyny. Mae popeth y bu ein cyndeidiau, neiniau a theidiau a rhieni yn ymladd drosto yn cael ei ddifetha. Gadewch i ni wneud rhywbeth."

Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddodd Williams ddelweddau o rali Tommy Robinson yn Llundain a fynychodd ar 27 Orffennaf.

Ysgrifennodd: "Os bydd y lefel honno o gefnogaeth yn parhau, byddwn yn ennill ein rhyddid yn ôl. Roedd hynny’n rhy fawr i gael ei alw’n brotest hiliol."

Ychwanegodd: "Rwyf wedi gweld heddiw eu bod yn ceisio rhoi Tommy Robinson yn y carchar. Duw fendithia Tommy Robinson, f***ing arwr.

Wrth gynrychioli Williams, dywedodd John Allchurch ei fod wedi cael diagnosis o PTSD ar ôl gwasanaethu fel milwr yn Afghanistan ac Irac.
 
"Profodd y diffynnydd sawl digwyddiad trawmatig tra yn y fyddin rhwng 2004 a 2011," meddai Mr Allchurch.
 
"Gwelodd gydweithwyr agos yn cael eu lladd yn greulon, yn ogystal â’r diffynnydd ei hun yn gorfod gweithredu yn erbyn y gelyn."
 
Ychwanegodd Mr Allchurch fod Williams wedi profi dirywiad diweddar yn ei iechyd meddwl, yn gysylltiedig â "hyfforddiant brwydro a phrofiadau trawmatig pan oedd yn filwr."
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.