Gyrrwr bws ysgol yn cyfaddef iddo yrru o dan ddylanwad cyffuriau yng Nghorwen
18/11/2024
Bydd yn rhaid i gyn yrrwr bws ysgol wneud 160 awr o waith di-dâl ar ôl cyfaddef iddo yrru o dan ddylanawad cyffuriau yng Nghorwen, Sir Ddinbych fis Gorffennaf.
Clywodd y llys yn Llandudno fod Richard Garroch yn cludo 16 o ddisgyblion ysgol ar y pryd ar ffordd yr A5.
Dywedodd yr erlynydd Alys Haf fod canabis yng ngwaed y dyn 45 oed o Landudno.
Cafodd ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd gan y barnwr.
Clywodd y llys ei fod bellach wedi colli ei swydd.