Angela Merkel: Llifogydd yr Almaen yn 'ddychrynllyd'
Angela Merkel: Llifogydd yr Almaen yn 'ddychrynllyd'
Mae dros 180 o bobl wedi marw a channoedd o bobl ar goll ar ôl i law trwm achosi llifogydd difrifol yn Yr Almaen a Gwlad Belg.
Wrth ymweld â rhanbarth Rhineland-Palatinate, dywedodd y Canghellor Angela Merkel fod yn llifogydd yn "ddychrynllyd".
"Mae'n ysgytwol - bron y gallwn ddweud nad oes gan yr iaith Almaeneg eiriau i ddisgrifio'r dinistr sydd wedi'u hachosi."
Mae Gweinidog Cyllid yr Almaen, Olaf Scholz, wedi dweud y bydd swyddogion yn dechrau'r broses o drefnu cynllun ailadeiladu - gyda'r costau yn agos at y biliynau.
Bydd pecyn cymorth cychwynol gwerth 300m ewro yn cael ei gyhoeddi yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mercher, meddai.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Getty